UDA yn ailagor i deithwyr rhyngwladol am y tro cyntaf ers cyn y pandemig

Mae hawl gan bobl deithio i'r UDA am y tro cyntaf ddydd Llun ers mis Mawrth 2020 yn dilyn cyfyngiadau teithio Covid-19.
Bydd yn rhaid i oedolion fod wedi derbyn dau frechlyn er mwyn teithio yno.
Yn ôl The Independent, mae disgwyl tagfeydd a meysydd awyr prysur yn y Deyrnas Unedig wrth i’r hediadau i’r Unol Daleithau ail-ddechrau.
Dywedodd Prif Weithredwr cwmni British Airways, Sean Doyle bod ailagor ffiniau UDA yn “foment i’w ddathlu ar ôl mwy na 600 diwrnod o fod ar wahan.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Joshua Woronecki