Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

06/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Mae'n fore dydd Sadwrn ac yn gyfle i daro golwg ar y prif straeon ar ein gwasanaeth.

Mei Jones: Teyrngedau i’r actor oedd yn ‘drysor i’r genedl’

Mae teyrngedau lu wedi eu rhannu i’r actor, sgriptiwr ac awdur, Mei Jones, sydd wedi marw yn 68 mlwydd oed. Fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am gyd-greu ac actio’r cymeriad Walter ‘Wali’ Tomos yn y gyfres gomedi ‘C’mon Midffîld!’ a chreu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg.

Trychineb Afon Cleddau: Menyw wedi marw ac un arall wedi ei harestio

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod menyw o dde Cymru wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd fel rhan o ymchwiliad i drychineb diweddar ar yr afon Cleddau. Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau fod menyw arall wedi marw o ganlyniad i'r digwyddiad.

COP26: Cynnal gorymdeithiau yn galw am 'bolisiau newid hinsawdd teg'

Mae disgwyl i bobl orymdeithio mewn nifer o ddinasoedd a threfi ar hyd a lled y wlad ddydd Sadwrn, gan alw am bolisiau newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn ystod cynhadledd COP26. Yng Nghaerdydd, Glasgow, Llundain a sawl lleoliad arall ar draws y DU, bydd ymgyrchwyr a grwpiau yn cyd-orymdeithio fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang yr Hinsawdd Cynghrair COP26.

Cymru'n paratoi i herio pencampwyr y byd yng Nghyfres yr Hydref

Fe fydd yn rhaid i Gymru ymateb yn sydyn i'r grasfa yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf, wrth i'r crysau cochion baratoi i herio pencampwyr y byd De Affrica yn ddiweddarach ddydd Sadwrn. Bydd y gic gyntaf am 17:30. 

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar wefan ac ap Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.