Newyddion S4C

Mei Jones: Teyrngedau i’r actor oedd yn ‘drysor i’r genedl’

06/11/2021

Mei Jones: Teyrngedau i’r actor oedd yn ‘drysor i’r genedl’

Mae teyrngedau lu wedi eu rhannu i’r actor, sgriptiwr ac awdur, Mei Jones, sydd wedi marw yn 68 mlwydd oed. 

Fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am gyd-greu ac actio’r cymeriad Walter ‘Wali’ Tomos yn y gyfres gomedi ‘C’mon Midffîld!’ a chreu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg.

Bu’n diddanu ar deledu ac ar y radio, ac mewn cyfresi hynod boblogaidd ar S4C.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Alun Ffred Jones wrth Newyddion S4C: "Roedd Mei yn actor dawnus a scriptiwr gwreiddiol oedd yn rhoi o'i orau bob amser ac yn disgwyl hynny gan bawb oedd yn cydweithio ag o.

“Mi allai, ac efallai y dylai, fod wedi ysgrifennu rhagor ond gallwn ddiolch am yr hyn a gafwyd. Mi wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i'r byd adloniant Cymraeg."

Image
Mei Jones
Roedd Mei Jones wedi dioddef cyfnod o salwch. Llun: S4C

Dywedodd John Pierce Jones, cyfaill i Mei Jones a cyd-berfformiwr fel Mr Picton yn 'C'mon Midffîld' fod y sgriptiwr yn "adnabod ei gynulleidfa fel cefn ei law, sy'n beth prin iawn, iawn yn y byd darlledu Cymraeg".

Ychwanegodd wrth Golwg360 ei fod "o’n golled mawr i mi". 

'Ni eith Mei byth yn anghof'

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Bydd ein gwylwyr yn fythol ddiolchgar i Mei am C’mon Midffîld a Wali gan fod y ddrama a’r cymeriad ymysg trysorau mwya’r sianel.

“Cyhyd ag y bydd Wali’n rhedeg y linell gyda’i faner ni eith Mei byth yn angof.”

Dywedodd yr awdur a’r sgriptwraig, Manon Steffan Ros: Wali Tomos yn un o greadigaethau mwya' hoffus, annwyl, digri a chofiadwy'r Gymraeg. Ddaru Mei Jones greu cymeriad 'da ni gyd yn ei garu. Am gamp, ac am etifeddiaeth hael i'r genedl.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Mei Jones am ei "gyfraniad enfawr".

Mae teyrngedau wedi cyrraedd o’r byd gwleidyddol hefyd.

Disgrifiodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Mei Jones fel “athrylith.”

Dywedodd: "Athrylith o ysgrifennwr. Chwedlonnol o actor. Dihafal o gomedïwr. Trysor i’r genedl. Fe gollon ni un o’n meistri heddiw.”

Image
Wali tomos
Wali Tomos (Mei Jones) a'i fam Lydia Tomos (Catrin Dafydd) wyneb yn wyneb ar set 'C'mon Midffîld'. Llun: S4C

Yn frodor o Ynys Môn, cafodd Myrddin Henryd Jones ei eni ar dyddyn yn Llanddona, cyn i’r teulu symud i Lanfairpwll.

Dangosodd ddiddordeb ym myd y bêl gron o’i ddyddiau cynnar. Fe chwaraeodd i dimau Bangor, Amlwch a Biwmares, a chael ei ddewis i chwarae pêl-droed i dîm ysgolion Gymru.

Addysg ag actio

Aeth i Ysgol Syr David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn mynychu’r Coleg ger y Lli yn Aberystwyth gan ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth.

Yn ystod y cyfnod yma roedd yn un o aelodau gwreiddiol y grwp poblogaidd Mynediad am Ddim ac fe berfformiodd ar eu record gyntaf.

Gadawodd Aberystwyth a dilyn cwrs perfformio Cymraeg yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd yng nghwmni y diweddar Sion Eirian ac eraill.

Dechreuodd ar yrfa ym myd actio, sgriptio a chyfarwyddo yn 1976 - i ddechrau gyda Chwmni Theatr Cymru, cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws gyda Valmai Jones, Dyfan Roberts, Iola Gregory a Catrin Edwards.

Pan ddechreuodd S4C bu'n cymryd rhannau blaenllaw yn ffilmiau yr awdur Emyr Humphreys a'i fab Sion ac yn y gyfres o raglenni dogfen Almanac.

Trodd ei sylw at fyd darlledu, ac ar donfeddi Radio Cymru bu’n rhan o dîm ‘Wythnos i’w Anghofio’ a ‘Pupur a Halen’.

Yn ystod yr wythdegau bu'n actio cymeriadau mewn nifer o ddramâu gan gynnwys ‘Hufen a Moch Bach’, ‘Anturiaethau Dic Preifat’ a ‘Wastad Ar Y Tu Fas’.

Image
Mei Jones
Mewn addasiad ffilm o'r ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Llun: Ffilmiau Bryngwyn

Bydd ei waith ar y cyd ag Alun Ffred Jones o ddod â chymeriadau comedi eiconig Wali Tomos, Mr Picton, Sandra, George, a Tecwyn ‘Tecs’ Parri yn fyw ar gyfres ‘C’mon Midffîld!’ yn aros yn hir yn y cof i genedlaethau o Gymry.

Darlledwyd tair cyfres ar Radio Cymru o Fangor gydag Elwyn Jones yn cynhyrchu, gan dderbyn ymateb brwd gan y gynulleidfa.

Cafodd y gyfres deledu ei darlledu’n gyntaf ar y sgrîn fach yn 1988, ac fe ddarlledwyd pum cyfres, dwy ffilm ag un rhaglen Nadolig arbennig cyn i helyntion pentrefwyr Bryn Coch ddirwyn i ben.

Enillodd Mei Jones ac Alun Ffred Jones wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru ar gyfer y gyfres gomedi eiconig hon yn 1992.

Yn 1990, cafodd Mei Jones ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o chwarae rhan yn yr ymgyrch losgi tai haf – ynghyd ag un o aleodau eraill cast ‘C’mon Midffîld!’, Bryn Fôn a’r actor Dyfed Thomas. Cafodd y tri eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad yn ddiweddarach.

Mae’n gadael pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron a tri o wyrion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.