COP26: Cynnal gorymdeithiau yn galw am 'bolisiau newid hinsawdd teg'
Mae pobl wedi gorymdeithio mewn nifer o ddinasoedd a threfi ar hyd a lled y wlad ddydd Sadwrn, gan alw am bolisiau newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn ystod cynhadledd COP26.
Dechreuodd yr Uwchgynhadledd newid hinsawdd yn Glasgow ddydd Sul diwethaf, lle mae arweinwyr y byd yn cwrdd er mwyn ceisio dod o hyd i ffyrdd i atal cynhesu byd eang a gwarchod y blaned.
Yng Nghaerdydd, Glasgow, Llundain a sawl lleoliad arall ar draws y DU, mae ymgyrchwyr a grwpiau yn cyd-orymdeithio fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang yr Hinsawdd Cynghrair COP26.
COP26: Beth sydd angen i mi wybod?
@FOECardiff @FOEPontypridd, FOE Pembs @foecymrucydd OUT IN FORCE at @CardiffCOP26 Day of Action march. #COP26 #ClimateJustice pic.twitter.com/miRXbHbnL3
— Cardiff FoE 🏴 🌍 (@FOECardiff) November 6, 2021
Un o brif amcanion yr orymdaith yw ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hinsawdd, sef pan mae y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn dioddef sgil effeithiau newid hinsawdd waethaf.
Daw hyn rai diwrnodiau ar ôl i’r Comisiynydd ar Genedlaethau’r Dyfodol, Sophie Rowe, gyhoeddi adroddiad sy’n dweud mae’r rhai sy’n byw mewn tlodi neu mewn cymunedau ymylol yw’r rhai sy’n cael eu taro waethaf gan drychinebau fel llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd.
“Y poblogaethau tlotaf a mwyaf ymylol sydd leiaf cyfrifol am gynhyrchu nwyon tŷ gwydr yw: y mwyaf tebygol o fod yn agored i'w effeithiau negyddol, y mwyaf agored i gael eu niweidio, a nhw yw’r rhai â'r adnoddau lleiaf i ymateb, ymdopi ac chael adferiad,” meddai’r adroddiad.
Mae Nia James o Gaerdydd yno ar ran y grŵp Gwrthryfel Dyfodiant, ar ôl ymuno a’r grŵp dros yr haf.
"Maen nhw’n dweud mai hon yw’r uwchgynhadledd fwyaf anghyfartal sydd wedi bod. Mae'r elite yno yn cael llwyfan, y teulu brenhinol, Jeff Bezos ac yn y blaen."
Ychwanegodd fod y cyfle i gefnogi ymgyrch sy'n ceisio mynd i wraidd anhydraddoldeb hinsawdd yn "bwysig iawn" iddi.
Mae cynrychiolwyr o Gyngres yr Undebau Llafur, Cytûn, Unite Wales a Chyngor Mwslemaidd Cymru ymhlith y rhai sy'n bresennol.
Beth yn union yw COP26? 🤔
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) October 1, 2021
Dyma bopeth chi angen gwybod am yr uwchgynhadledd fydd yn cael ei chynnal yng Nglasgow fis nesaf 👇 pic.twitter.com/1AA5atjBBG
Dywedodd y trefnydd Clare James: "Mae anghyfiawnder cymdeithasol, economaidd a hiliol wrth wraidd newid hinsawdd, ac mae'r COP yma yn anhebygol iawn o fynd i'r afael â'r problemau yma tra fod y gwledydd sy'n cael eu heffeithio yn ofnadwy gan newid hinsawdd ar hyn o bryd yn absenol oherwydd anghydraddoldebau gyda'r cynllun brechu yn fyd-eang.
"Bydd y gwledydd fwyaf cyfaethog yn cyrraedd Glasgow gyda eu cynlluniau "sero-net" yn barod yn eu lle, ond mae'r gair yma yn ddiystyr a nid yw gyfystyr â newid hinsawdd radical mwyach; yn hytrach, mae'n cael ei gysylltu gyda amrywiaeth syfrdanol o dactegau greenwashing, er enghraifft defnyddio technoleg sydd ddim yn bodoli eto, a gwrthbwyso carbon sydd heb unrhyw fath o integriti unwaith yr ydych yn crafu'r wyneb."
Mae ystod o addewidion wedi'u gwneud yn COP26 hyd yma, gan gynnwys ymrymwiadau i warchod coedwigoedd y byd, yn ogystal a lleihau allyriadau methan.
Mae'r Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi amlinellu cynlluniau i weld y sector ariannol yn cyrraedd targedau sero-net.