Darganfod corff mewn car yn dilyn 'ffrwydrad' ger Nant Gwynant yn Eryri

04/11/2021
nant gwynant ffrwydrad

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod corff wedi ei ddarganfod yn sêt y gyrrwr mewn car oedd ar dân yn Eryri ddydd Llun.

Cafodd swyddogion eu galw am 13:57 yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad uchel a cherbyd ar dân ar ffordd yr A498 ger Nant Gwynant.

Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto medd yr heddlu.

Ychwanegodd llefarydd fod y llu'n cydweithio'n agos gyda'r Crwner a Phatholegydd y Swyddfa Gartref i geisio darganfod enw'r unigolyn ac amgylchiadau ei farwolaeth.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un oedd wedi gweld y ffrwydrad neu'r cerbyd yn y lleoliad hwn cyn y digwyddiad i gysylltu'n fyw dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod Z160711.

Llun: Rhydian Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.