
Gwerth pêl-droed yn fwy na £550m i Gymru

Gwerth pêl-droed yn fwy na £550m i Gymru
Am y tro cyntaf yn eu hanes, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi ffigwr penodol ar yr effaith y mae’r gêm yn ei chael ar economi Cymru.
Mewn astudiaeth arloesol gan UEFA, sy’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Iechyd y Byd a’r Cenhedloedd Unedig, mae’r model yn cynnig arf i gymdeithasau a chlybiau lleol i arddangos gwerth cymdeithasol ac economaidd y gamp.
Mae’r ymchwil yn dangos bod clybiau a chwaraewyr yn cyfrannu £553.14 miliwn i’r economi.
Gan edrych ar y 90 mil sydd wedi cofrestru i chwarae yng Nghymru, a’r 18 mil o wirfoddolwyr, mae ‘na ffigyrau manwl yn tanlinellu’r effaith gadarnhaol ar dri maes allweddol; yr economi, buddion cymdeithasol a iechyd.
Mae’n awgrymu bod ‘na gyfraniad uniongyrchol o £263.482 miliwn yn economaidd, gyda’r buddion cymdeithasol werth £83.965 miliwn.
Tra bod iechyd yn cael ei ystyried yn faes hollbwysig, amcangyfrifir bod yr arbedion i’r gwasanaeth iechyd yn cyrraedd £205.691 miliwn.
Wrth ystyried y ffigyrau yma, mae ‘na alwadau am ragor o arian i hybu’r gamp ar lawr gwlad.
"Y broblem yw nad oes gyda ni ddigon o gyfleusterau ar lawr gwlad er mwyn chwarae pêl-droed," dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Felly yr hyn sydd ei angen, yn hytrach na bod llywodraethau yn gwario cymaint ar driniaethau, bod modd gwario cyfran o’r arian o’r dechrau ar yr ymdrech i atal y broblem."

"Felly mae angen mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, er mwyn arbed llwyth o arian yn y pendraw," ychwanegodd.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi strategaeth ‘Ein Cymru’ yn ddiweddar sy’n gosod targed i gynyddu nifer y chwaraewyr i 120,000 erbyn 2026.
Byddai hynny yn ôl y model yma yn codi’r cyfraniad i £692.46 miliwn y flwyddyn i’r maesydd sydd eisoes wedi’u crybwyll. Rhagor o gyfiawnhad yn ôl Noel Mooney i’r alwad am fuddsoddiad;
“Ry’ ni’n gwybod am bob punt mae’r llwyodraeth yn rhoi i bêl-droed, bod mwy yn cael ei arbed. Felly mae’n gyfle gwych i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn chwaraeon," meddai.
"Y casi busnes sydd o’u blaenau nawr yw’r cyfiawnhad dros fuddsoddi ac arbed arian yn y dyfodol, ac yn bwysicach na hynny, arbed bywydau."
"Ry’ ni’n bendant yn teimlo bod angen mwy o fuddsoddiad mewn cyfleuterau ar lawr gwlad. Mae’r Gymdeithas yn barod i fuddsoddi, mae angen partneriaid fel Chwaraeon Cymru a’r Llywodraeth ac eraill ymuno er mwyn creu dyfodol gwell i’n pobl.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru; "Mae gwella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn 2021-22 rydym yn buddsoddi mwy na £8.6m mewn cyfleusterau cymunedol a chenedlaethol i ddarparu cyfleusterau modern a hygyrch i annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon."
Mae’r astudiaeth hefyd yn canolbwyntio ar yr effaith y mae clybiau lleol yn eu cael ar gymunedau.
Ynghyd â prif ffigyrau, fe fydd yr 943 clwb yng Nghymru yn medru gweld eu cyfraniadau unigol. Fe fydd y gymdeithas bêl-droed yn gwahodd y clybiau yma i gymryd diddordeb yn y gwaith er mwyn medru dechrau sgwrs gydag awdurdodau lleol ynglyn a’r angen i ddatblygu adnoddau ac yn y blaen.
Mae Clwb Pêl-droed Rhydaman yn rhedeg timau dynion, merched, anabl, tîm i chwaraewyr hyn, ac i blant. Cyfanswm yr hwb economaidd yn lleol yn ôl yr adroddiad yw £2.18 miliwn.
“Mae’n dangos beth ni’n neud i’r gymuned. Falle nag yw pawb yn cydnabod beth ni’n neud yn lleol," meddai Rhodri Jones, yw Dirprwy Gadeirydd y clwb.
"A dwi’n credu bod cael rhif yn ein galluogi i gymharu ein hunain ag eraill, ac i edrych ar ffyrdd o wella.”

Law yn llaw â chanlyniadau’r astudiaeth o ran y manteision iechyd, mae modd edrych ar Sefydliad Jac Lewis sydd wedi’i sefydlu gan y clwb yn Rhydaman.
Cafodd yr elusen ei sefydlu yn dilyn marwolaeth un o’i chwaraewyr. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a mae dros fil o sesiynau cwnsela wedi’u cynnal yn y gymuned.
Mae adroddiad UEFA yn dweud bod Clwb Rhydaman wedi arbed £1.3 miliwn i’r gwasanaeth iechyd.
“Doedd y sessiynau yma ddim ar gael yn y gorffenol, felly mae’r ffaith bod dros fil wedi’u cynnal yn brawf bod yr angen yna," dywedodd Rhodri Jones.
"Erbyn hyn, ni wedi sefydlu partneriaeth gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe a’r Gymdeithas Bêl-droed. Mae hynny’n dangos ein bod ni’n neud lot yn lleol ond hefyd ar draws Cymru."

Mae Yazmin Gutteridge yn chwarae dros y tîm merched lleol, ac yn synnu dim ar gynnwys yr adroddiad o ran effaith y clwb.
“I fi, mae’r clwb yn golygu teulu. Fel merch ifanc, ro’ ni’n ei chael yn anodd gwybod lle oedd fy lle," meddai.
"Dyna pam droies i at bêl-droed. Dwi o Loegr, felly pan ddes i i Rhydaman, ro ni’n teimlo’n wahanol.
"Ond pan ddes i o hyd i’r tîm, nethon nhw fy nerbyn i am bwy oeddwn i.”