
Chwaraewyr tîm rygbi merched Cymru i gael cytundebau proffesiynol
Am y tro cyntaf erioed, bydd rhai o ferched sy’n chwarae i dîm rygbi Cymru yn derbyn cytundeb proffesiynol.
Erbyn diwedd 2021 bydd 10 cytundeb proffesiynol a 15 o gytundebau cynnal sy’n talu’n is yn cael eu rhoi i 25 o ferched sy’n chwarae i’r tîm rhyngwladol.
Dyma’r tro cyntaf i Undeb Rygbi Cymru roi cytundeb proffesiynol i ferched, gan ddilyn penderfyniad Lloegr i wneud yr un fath yn 2016.
Mae’r penderfyniad yn dilyn galwadau hir dymor ar yr Undeb i wella eu cefnogaeth o’r tîm benywaidd, sydd heb ennill gêm ers dwy flynedd.
"Mae merched iau nawr yn gallu edrych arnom ni fel chwaraewyr a gwybod y gallan nhw fod yn ein safle ni un dydd a chwarae'n broffesiynol dros eu gwlad."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 3, 2021
Am y tro cyntaf erioed, bydd rhai o'r merched sy’n chwarae i dîm rygbi Cymru yn derbyn cytundeb proffesiynol 🏉🏴 pic.twitter.com/l5Crnrz0oQ
Dywedodd capten tîm merched Cymru, Siwan Lillicrap wrth Newyddion S4C bod y newyddion yn mynd i "newid y gêm" i ferched.
"Mae'r merched iau nawr yn gallu edrych arnom ni fel chwaraewyr a gwybod gallen nhw falle bod yn safle ni un dydd a gallu chwarae yn broffesiynol dros eu gwlad.
"Mae'n enfawr, ma hwn yn newid y gêm yn gyfan i ni. Mae'n bwysig iawn ac mae'n mynd i fod yn bwysig i datblygiad ni a perfformiad ni."
Wrth i'r merched baratoi ar gyfer gêm yn erbyn Siapan yng nghyfres yr Hydref ddydd Sul, dywedodd Siwan bod y newyddion yn hwb.
"Ni'n gyffrous, ti'n gwbod ma'r teimlad yn y camp yn un dda iawn oherwydd ni wedi gwybod am cwpwl o wythnosau nawr bod hyn yn dod," ychwanegodd.
"Mae wedi rhoi bach o ease arnom ni fel squad bod pethau yn newid a ni wedi bod yn traino yn dda ac mae'r vibes yn y camp yn un positif ers 'ny."
'model gorau'
Ychwanegodd yn gynharach ddydd Mercher mai dyma yw'r "model gorau" i'r chwaraewyr.
"Mae'n strwythur sy'n rhoi cyfle i ni baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd mewn lle gwell," meddai.
"Bydd e'n caniatáu i rai o'n chwaraewyr i ymrwymo i fod yn athletwyr proffesiynol, a hefyd o ran bod yn gyfrifol am dasgiau penodol ar ran y tîm, er enghraifft dadansoddi, yn ogystal â gwneud penderfyniadau o gwmpas eu sefyllfaoedd personol a fydd yn gadael iddynt hyfforddi a gwella mewn ffordd haws fel ein bod ni'n gallu cymryd camau ymlaen fel grŵp."
Cyfnod anodd i'r tîm
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi dioddef cyfnod cythryblus yn ddiweddar.
Fis Tachwedd 2020 enwyd cyn-hyfforddwr saith bob ochr menywod yr Unol Daleithiau, Warren Abrahams, fel prif hyfforddwr a chyn-gapten Cymru Rachel Taylor fel hyfforddwr sgiliau. Ymddiswyddodd Taylor cyn y Chwe Gwlad eleni a gadawodd Abrahams ei swydd bedwar mis yn ddiweddarach.
Ym mis Medi, fe ddywedodd Siwan Lillicrap wrth Newyddion S4C fod y tîm bellach wedi derbyn ymddiheruiad gan Undeb Rygbi Cymru am y cyfnod anodd.

Fe ddechreuodd Nigel Walker fel cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru fis Medi.
Dywedodd: "Mae hyn yn un rhan, er yn un pwysig, mewn jigsaw wrth i ni sicrhau fod gennym gynllun merched rhyngwladol o'r safon uchaf.
"Mi fyddan ni'n parhau i gynnwys arbenigedd yn y strwythur rheoli ac rydym hefyd yn gweithio'n galed tu ôl i'r lleni ar gymryd camau fydd yn sicrhau fod gennym lwybr cadarn i'n chwaraewyr i gefnogi'r lefel uchaf."
Ychwanegodd eu bod yn y broses o benodi Pennaeth Gradd Oedran ynghyd â hyfforddwyr i redeg y timoedd dan 18 a 20 ar yr ochr dynion a merched.
🗨️Nigel Walker on the news that the first contracts will be offered to female rugby players in Wales before the end of the year: "We are committed to making this the best professional women's programme in the world" pic.twitter.com/NlzVNjVYak
— Welsh Rugby Union 🏉 (@WelshRugbyUnion) November 3, 2021
Fel rhan o'r newid, bydd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn creu swyddi newydd fydd yn canolbwyntio ar berfformiadau, seicoleg a ffordd o fyw, gydag arian yn cael ei neilltuo i dalu am raglenni penodol i godi safon.
'Gwneud gwahaniaeth mawr'
Ychwanegodd prif hyfforddwr y tîm Ioan Cunningham y bydd y dull newydd o weithio yn gwneud "gwahaniaeth mawr" i'r tîm ar drothwy pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.
"Mi fyddan ni'n gallu mynd o ddal fyny gyda chwaraewyr mewn sesiynau hyfforddi ar benwythnosau ac un sesiwn canol wythnos, i hyfforddi hyd at bedair gwaith yr wythnos," meddai.