Newyddion S4C

Capten Cymru yn derbyn ymddiheuriad gan yr Undeb wedi cyfnod cythryblus

Newyddion S4C 29/09/2021

Capten Cymru yn derbyn ymddiheuriad gan yr Undeb wedi cyfnod cythryblus

Ar ôl cyfnod cythryblus i dîm rygbi merched Cymru, mae capten y tîm cenedlaethol wedi derbyn ymddiheuriad gan Undeb Rygbi Cymru.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Siwan Lillicrap: "Do’dd dim rhaid i Nigel [Walker] a Steve [Phillips] ddod fewn ac ymddiheuro i ni fel chwaraewyr, ond nath nhw, ac ni'n derbyn yr ymddiheuriad.

"Ma' rhaid i ni edrych ymlaen nawr ac edrych sut ni'n gallu datblygu fel gêm menywod Cymru."

Dywedodd Siwan Lillicrap ei bod lle i’r garfan ddatblygu dan ofal yr hyfforddwyr: "Fi'n gyffrous i roi popeth odd wedi digwydd yn y gorffennol i ben, ac i edrych ymlaen, a dechrau datblygu gêm ni."

Mae Cymru wedi dioddef cyfnod anodd yn ddiweddar ac heb ennill gêm ers dwy flynedd.

Fis Tachwedd 2020 enwyd cyn-hyfforddwr saith bob ochr menywod yr Unol Daleithiau, Warren Abrahams, fel prif hyfforddwr a chyn-gapten Cymru Rachel Taylor fel hyfforddwr sgiliau.

Ymddiswyddodd Taylor cyn y Chwe Gwlad eleni a gadawodd Abrahams ei swydd bedwar mis yn ddiweddarach.

Cyhoeddwyd ddydd Mercher mai Ioan Cunningham a Geraint Lewis fydd yng ngofal tîm dros dro. 

"Ni'n edrych mlaen at gael yr hyfforddwyr newydd dros dro fewn," ychwanegodd Siwan Lillicrap.

Fe ddechreuodd Nigel Walker yn ei swydd newydd fel cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru ddydd Mercher hefyd.

Mae Nigel yn gyfrifol am wella gêm y menywod cyn Cwpan y Byd yn Seland Newydd sydd wedi ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.

"Bydd hefyd yn neis cael y cefnogwyr nôl, teulu, ffrindiau, ond hefyd y merched sy' moyn rhoi'r crys coch 'na arno un dydd.

"Mae'n rili neud gwahaniaeth. Mae'n atgoffa ni fel chwaraewyr pam ni'n neud hwn, i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, a dyna i ni'n edrych i neud ym mhencampwriaeth yr Hydref," ychwanegodd.

Bydd y tair gêm yn cael eu cynnal ym Mharc yr Arfau yn y brif ddinas, gyda Cymru'n wynebu Japan ar 7 Tachwedd, De Affrica ar 13 Tachwedd a Chanada ar 21 Tachwedd.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn parhau i chwilio am brif hyfforddwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.