Dyfodol 'mwy heriol' i Gymru os nad yw COP26 yn llwyddo

Dyfodol 'mwy heriol' i Gymru os nad yw COP26 yn llwyddo
Fe fydd Cymru yn wynebu dyfodol "mwy heriol" os nad yw uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn llwyddo i gytuno ar fesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng, yn ôl y Prif Weinidog.
Roedd Mark Drakeford yn siarad wedi iddo gyrraedd Glasgow ar gyfer y gynhadledd.
Fe deithiodd ar drên fore Llun i'r gynhadledd sydd wedi ei threfnu gan y Cenhedloedd Unedig.
Er nad oes disgwyl iddo fod yn rhan o'r trafodaethau ffurfiol, fe fydd Mr Drakeford yn manteisio ar y cyfle i gwrdd ag arweinwyr eraill o wledydd ar draws y byd.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth raglen Newyddion S4C: “Cynllun i fi yw i gwrdd gyda phobl o wledydd eraill – gwledydd bach ledled y byd – i glywed oddi wrthyn nhw am be’ maen nhw’ ‘neud ac esbonio beth ni’n ‘neud yng Nghymru hefyd."
Un pwynt trafod mawr yn ystod y gynhadledd fydd gweithredu ar amcanion Cytundeb Hinsawdd Paris 2015.
Fel rhan o’r cytundeb, mae targed i sicrhau fod y cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn cael ei gadw dipyn yn is na 2C o gymharu â lefelau cyn yr oes ddiwydiannol.
Roedd y cytundeb yn annog arweinwyr y byd i geisio mynd ymhellach a chyfyngu’r cynnydd yn y tymheredd i 1.5C, ac fe fydd cyflawni’r targed hwn yn un o brif heriau’r gynhadledd.
Aeth Mr Drakeford ymlaen i rybuddio am yr effeithiau posib ar Gymru os nad oes cytundeb rhwng arweinwyr y byd.
“Os mae’r COP ddim yn llwyddo i ‘neud popeth ni’n edrych at y gynhadledd i ‘neud, yn y dyfodol bydd fwy o bethe fel ‘na yn mynd i ddigwydd ac yn fwy difrifol hefyd yn ystod y gaeaf, bydd tywydd yn yr haf yn sych gyda thymheredd uchel hefyd", ychwanegodd.
“Ar hyn o bryd ni’n lwcus yn odyn ni? Ni’n gallu mwy neu lai ‘neud popeth ni ishe neud heb feddwl bob dydd am newid yn yr hinsawdd ond mae newid yn yr hinsawdd wedi dechrau’n barod yng Nghymru.
“A heb help COP a phopeth mae pobol yn dod fan hyn i benderfynu, bydd y dyfodol yn lot lot fwy heriol i ni yng Nghymru hefyd”.
Yn seremoni agoriadol yr uwchgynhadledd ar newid hinsawdd ddydd Llun, rhybuddiodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ei bod hi'n "unfed awr ar ddeg" i daclo'r argyfwng hinsawdd.
Fe fydd yr uwchgynhadledd yn Glasgow yn parhau tan 12 Tachwedd, gyda'r diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C.