Y BBC i ddefnyddio archwilwyr allanol 'i fesur didueddrwydd'

Fe fydd y BBC yn cyflogi archwilwyr allanol yn y dyfodol i fesur pa mor ddiduedd yw cynnwys y darlledwr cyhoeddus o hyn allan.
Fe fydd holl gynnwys y gorfforaeth, gan gynnwys rhaglenni plant, rhaglenni dogfen a'r newyddion, yn cael ei fesur yn gyson am unrhyw faterion sydd yn groes i ganllawiau didueddrwydd medd The Guardian.
Mewn cyhoeddiad ddydd Gwener yn cwmpasu 10 o bwyntiau canolog, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth mai "ddidueddrwydd, cywirdeb ac ymddiriedaeth yw sylfaen ein perthynas â chynulleidfaoedd yn y DU a ledled y byd.
"Mae ein cynulleidfaoedd yn haeddu ac yn disgwyl rhaglenni a chynnwys sy'n ennill eu hymddiriedaeth bob dydd ac mae'n rhaid i ni gyrraedd y safonau uchaf a dal ein hunain yn atebol ym mhopeth a wnawn.
"Mae'r newidiadau rydyn ni wedi'u cyhoeddi nid yn unig yn sicrhau ein bod ni'n dysgu'r gwersi o'r gorffennol ond hefyd yn amddiffyn y gwerthoedd hanfodol hyn ar gyfer y dyfodol."
Darllenwch y stori'n llawn yma.