Newyddion S4C

Mark Drakeford: 'Rhaid cyflwyno mwy o gyfyngiadau Covid-19 os yw'r sefyllfa'n gwaethygu'

29/10/2021
drakeford

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod sefyllfa Covid-19 yng Nghymru yn llawer fwy "difrifol" erbyn hyn. 

Roedd Mr Drakeford yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener yn ystod adolygiad tair wythnos y llywodraeth o gyfyngiadau Covid-19. 

Mae cyfres o fesurau wedi cael eu cryfhau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r nifer uchel o achosion Covid-19, gan gynnwys ymestyn y defnydd o basys coronafeirws. 

Mae Mr Drakeford yn rhybuddio y gallai'r lefel rhybudd godi yn yr adolygiad nesaf os yw'r ffigyrau hefyd yn parhau i godi ymhen tair wythnos.

Daw hyn wrth i Gymru fod â'r gyfradd uchaf o achosion o bob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Prif Weindiog wrth Newyddion S4C mai un o'r rhesymau tu ôl y gyfradd uchaf yw bod effaith y brechlyn dechrau cilio.

Er bod y gyfradd wedi gostwng dros y dyddiau diwethaf, roedd y gyfradd o achosion rhwng 17 a 23 Hydref yn 671.3 achos i bob 100,000 o bobl.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog bydd y cynllun pasys Covid yn cael ei ymestyn i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd.

Maen nhw eisoes yn orfodol mewn clybiau nos a digwyddiadau torfol mawr gan gynnwys nifer o gemau chwaraeon.

Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn dydd Gwener, rhybuddiodd Mr Drakeford y gallai pasys Covid gael eu cyflwyno ar gyfer y sector lletygarwch ac fe allai rhagor o bobl orfod dychwelyd i weithio o adref.

Beth arall fydd yn cael ei gryfhau?

  • Fe fydd newidiadau i'r cyngor ar hunan-ynysu yn cael eu cyflwyno.
  • Os bydd unrhyw un yn eu haelwyd yn profi'n bositif am Covid-19, neu os bydd ganddynt symptomau, fe fydd angen i oedolion sydd heb eu brechu'n llawn a phlant rhwng pump a 17 oed hunan-ynysu tan eu bod wedi derbyn canlyniad PCR negyddol.
  • Mae'r cyngor presennol yn nodi nad oes angen i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn hunan-ynysu os ydynt yn dod i gyswllt â Covid-19, ond mae angen iddynt gael prawf PCR negyddol ar yr ail a'r wythfed diwrnod ar ôl dod i gyswllt â'r feirws.
  • Fe fydd angen i'r sawl sydd heb eu brechu barhau i hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gyswllt gydag unrhyw un sydd wedi profi'n bositif.
  • Mae'r llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd mwy o gefnogaeth ar gael i benaethiaid gyflwyno mesurau yn eu hysgolion os mae achosion o'r feirws yn uchel yn lleol.
  • Maen nhw hefyd yn annog staff a disgyblion ysgolion uwchradd i gymryd dau brawf llif unffordd yr wythnos.

 

Amrywiolyn Delta

Yn y gynhadledd ddydd Gwener, fe ddywedodd Mr Drakeford fod yr awdurdodau wedi adnabod 2,000 achosion newydd o ffurf wahanol o'r amrywiolyn delta. 

Mae "posibilrwydd" y gallai'r ffurf newydd fod yn "fwy trosglwyddadwy" - ond wrth ateb cwestiynau gan y wasg, cadarnhaodd fod y datganiad yma yn seiliedig ar "ymchwiliadau rhagarweiniol".

Ychwanegodd fod y ffurf 10% yn fwy trosglwyddadwy na'r coronafeirws gwreiddiol, o'i gymharu â'r amrywiolyn delta, oedd yn 70%. 

Yr ymateb?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu'r angen am y defnydd o basys Covid-19 mewn "rhannau eraill o gymdeithas" tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi gwrthwynebu'r cynllun yn gyfan gwbl. 

“Ein gweledigaeth ni, yn dal i fod, yw bod y system yn cyfyngu ar ryddid ac nad yw'n gweithio," meddai'r Arweinydd, Jane Dodds. 

Yn ôl Plaid Cymru, mae angen "mesurau mwy effeithiol i gyfyngu ar drosglwyddo cymunedol", nid dim ond pasys Covid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.