Marwolaeth Emiliano Sala: David Henderson yn euog o beryglu diogelwch awyren

28/10/2021
david henderson

Mae trefnydd taith awyren angheuol olaf y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi ei gael yn euog yn Llys y Goron Caerydd o beryglu diogelwch awyren.

Roedd David Henderson, 67 oed, o Sir Ddwyrain Efrog wedi pledio'n euog yn barod i gyhuddiad o drefnu cludo teithiwr heb ganiatâd ac awdurdod.

Ond roedd wedi gwadu’r cyhuddiad o ymddwyn mewn modd a oedd yn peryglu diogelwch awyren.

Image
Emiliano Sala
Roedd Emiliano Sala yn teithio o glwb pêl droed Nantes, lle'r oedd yn chwarae, i'w glwb newydd yng Nghaerdydd pan fu farw. Llun: F. Neitzke

Bu farw Sala, 28, pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i'r môr ger Ynys y Garn ar 21 Ionawr 2019.

Roedd ar y ffordd o glwb pêl droed Nantes yn Ffrainc, lle’r oedd yn chwarae, i’w glwb newydd yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Sala ei ddarganfod fis yn ddiweddarach ond dydy corff y peilot David Ibbotson, 59, o Sir Lincoln heb ei ddarganfod.

Clywodd Llys y Goron Gaerdydd ddydd Llun, 18 Hydref, fod Henderson ar wyliau gyda’i wraig ym Mharis pan gafodd alwad gan yr asiant pêl-droed William “Willie” Mckay, oedd eisiau trefnu iddo hedfan i Nantes ond fe ddywedodd wrtho nad oedd ar gael.

Dywedodd Henderson wrth y llys fod Mr McKay yn gallu bod yn “benderfynol”, felly fe gynigodd ei fod yn dod o hyd i beilot arall.

Dywedodd hefyd, tra mai ef wnaeth drefnu’r daith gyda Mr McKay, gyda Mr Ibbotson oedd a’r cyfrifoldeb yn y pendraw i sicrhau fod yr awyren yn teithio’n ddiogel.

Roedd y llys eisoes wedi clywed nad oedd gan Mr Ibbotson drwydded beilot fasnachol, yr hawl i hedfan gyda'r nos, na chaniatâd i hedfan yr awyren Piper Malibu.

Mae dedfryd Mr Henderson wedi ei ohirio tan ddydd Gwener 12 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.