Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn mynychu gêm CPD Wrecsam
Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi mynychu gêm CPD Wrecsam am y tro cyntaf ym Maidenhead nos Fawrth.
Rhannodd Clwb Pêl-Droed Wrecsam lun o'r ddau seren Hollywood yn y dorf.
Welcome to W̶r̶e̶x̶h̶a̶m̶ Maidenhead 👋@RMcElhenney | @VancityReynolds
— Wrexham AFC (@Wrexham_AFC) October 26, 2021
🟢⚪️ #WxmAFC pic.twitter.com/2UiYODo5gI
Yn ôl North Wales Live wythnos diwethaf, mae'r ddau yn paratoi i ymweld â'r gogledd am y tro cyntaf ers iddyn nhw ddod yn berchnogion ar Glwb Pêl-droed Wrecsam, gyda disgwyl iddyn nhw fynychu gêm gartref yn erbyn Torquay United ddydd Sadwrn, 30 Hydref.
Ond, dewis gêm yn Maidenhead fel y tro cyntaf i wylio'r tîm wnaeth y ddau.
Mae'r ddau wedi ceisio ymweld â Wrecsam ers tro, ond mae hynny wedi profi'n anodd iddyn nhw oherwydd y cyfyngiadau teithio yn sgil y pandemig.
Maent wedi bod yn berchen ar CPD Wrecsam ers i'r cytundeb terfynol gael ei gytuno ym mis Chwefror.
Llun: Gemma Thomas trwy gyfrif Twitter CPD Wrecsam