Disgwyl i Ryan Reynolds a Rob McElhenney fynychu gêm CPD Wrecsam
24/10/2021
Mae sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn paratoi i ymweld â'r gogledd am y tro cyntaf ers iddyn nhw ddod yn berchnogion ar Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Yn ôl North Wales Live, fe fydd y ddau yn mynychu gêm gartref yn erbyn Torquay United ddydd Sadwrn, 30 Hydref.
Mae'r ddau wedi ceisio ymweld â Wrecsam ers tro, ond mae hynny wedi profi'n anodd iddyn nhw oherwydd y cyfyngiadau teithio yn sgil y pandemig.
Maent wedi bod yn berchen ar CPD Wrecsam ers i'r cytundeb terfynol gael ei gytuno ym mis Chwefror.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Lluniau: Gage Skidmore