Cynnydd sylweddol yn nifer y bywydau a achubwyd gan yr RNLI
Mae ffigyrau newydd yn dangos cynnydd sylweddol yn y nifer o fywydau gafodd eu hachub gan elusen yr RNLI yng Nghymru yn ystod yr haf y llynedd.
Gyda chyfyngiadau Covid-19 yn llacio yn ystod yr haf hwnnw a mwy o bobl yn heidio i'r arfordir, achubwyd 24 o bobl rhwng mis Mehefin ac Awst 2020, o'i gymharu â 14 o bobl yn y flwyddyn flaenorol - cynnydd o 71%.
Yn ôl Rebecca Dabill, Rheolwr Cymunedol De a Gorllewin Cymru yr RNLI, mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod prysur ag anodd i’r gwasanaeth:
“Mae hi wedi bod yn gyfnod heriol,” dywedodd wrth Newyddion S4C.
“Roedd hi’n haf prysur, gyda nifer o bobol yn penderfynu mynd ar eu gwyliau agosach i adref yn hytrach na dramor eleni.
“Er gwaethaf hynny, roedd ein cychod yn parhau i fynd allan a gwaith ein gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn wych.
“Nawr, mae eitha’ lot o swyddi wedi dod fyny’r un pryd i sawl gorsaf yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
“Mae 'na rhai llefydd yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr nag eraill, yn enwedig ardaloedd gwledig fel Aberteifi.
“Er enghraifft, ar hyn o bryd, ni wedi lansio apêl er mwyn ffeindio swyddog fydd yn awdurdodi lansio’r bad achub. Ni’n chwilio am yrwyr cychod a gwirfoddolwyr ar gyfer criw bad achub RNLI hefyd.
“Dyna pam ni’n cynnig diwrnod agored er mwyn gwahoddi unrhyw berson o unrhyw gefndir i ddod i ddysgu mwy ac efallai ystyried ymuno â RNLI fel gwirfoddolwr.”
‘Teimlad o undod’
Un sydd wedi gwirfoddoli â RNLI Aberteifi am ddwy flynedd a hanner yw Sarah Morgan.
Yn ôl Sarah, mae hi’n gobeithio bydd y “teimlad o undod” o fewn criw bad achub yn ddigon i apelio i rai sydd eisiau gweithio i’r gwasanaeth.
“Mae bod yn wirfoddolwr i’r RNLI yn fraint,” dywedodd.
“Rydych yn teimlo ryw deimlad o undod gydag aelodau’r criw bad achub.
“Rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gael y gorau o'n gilydd sy'n ein galluogi i weithio fel tîm i achub bywydau ar y môr.
‘Elusen methu gweithredu heb gymorth’
Gyda’r elusen nawr yn pryderu bydd y galw’n cynyddu wrth i fwy o bobl benderfynu aros yn agosach i adref yn hytrach na mynd dramor y flwyddyn nesaf, mae Rheolwr Ardal Achub yr RNLI, Roger Smith, yn pwysleisio ar bwysigrwydd y gymuned i warchod eu RNLI lleol.
Dywedodd: ”Mae gwirfoddoli gyda’r RNLI yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol ac i’n helpu ni i achub bywydau ar y môr.
“Dydy’r elusen methu gweithredu heb gymorth ein gwirfoddolwyr anhunanol a gweithgar.
“Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu ein helusen, rwy’n annog i chi ddod i’r diwrnod recriwtio gwirfoddolwyr a darganfod mwy.”