
Jeremy Paxman: 'Bydd pobl yn anghofio' trychineb Aberfan

Jeremy Paxman: 'Bydd pobl yn anghofio' trychineb Aberfan
Mae’r newyddiadurwr a'r darlledwr Jeremy Paxman wedi dweud y bydd “pobl yn anghofio" trychineb Aberfan yn y dyfodol.
Daw ei sylwadau ar raglen Heno ar S4C bron i 55 mlynedd union ers y drychineb oedd yn un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes diweddar Cymru.
Ar ddydd Gwener, 21 Hydref 1966 bu farw 116 o blant a 28 o oedolion pan gafodd Ysgol Gynradd Pant-glas ei tharo gan dunelli o wastraff glo.
Mae Mr Paxman, oedd yn arfer cyflwyno rhaglen Newsnight y BBC am chwarter canrif ac yn gyflwynydd University Challenge, newydd gyhoeddi llyfr am y diwydiant glo ym Mhrydain.

Yn ei lyfr ‘Black Gold: The History of How Coal Made Britain’, mae’r newyddiadurwr yn disgrifio’r digwyddiad fel “y trychineb fwyaf dychrynllyd” yn hanes mwyngloddio.
“Erbyn hynny, roedd cloddio am lo ym Mhrydain ar ddiwedd ei gyfnod, ac mae rhywbeth ofnadwy iawn am y ffaith fod dioddefwyr mwyaf diweddar trychineb o’i fath wedi eu lladd, nid gan lo, ond gan yr hyn sy’n cael ei adael ar ôl i lo gael ei gloddio,” meddai.
“Dim ond ffŵl a fyddai’n dweud na fydd trychineb arall yn gysylltiedig â mwyngloddio ym Mhrydain fyth eto.”
Roedd Aberfan yn drychineb wnaeth ysgwyd y byd, gyda bron i genhedlaeth gyfan yn diflannu yn y pentref bach ym Merthyr Tudful.
Hyd heddiw, mae’r cofio yn parhau – ac fe gafwyd munud o dawelwch yng Nghymru yn 2016, 50 mlynedd ers y trychineb.

Er iddo ddisgrifio erchyllterau’r digwyddiad, mae Mr Paxman yn dadlau y bydd y plant fu farw “yn fuan yn mynd yn angof”.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Heno, ategodd ei bwynt, gan ddweud: “Bydd pobl yn anghofio Aberfan mae gen i ofn, yn yr un ffordd ag y gwnaethon nhw anghofio trychinebau cloddio Cymreig cyn hynny.”

Anghytuno gyda Mr Paxman mae’r cyn-loẅr, Anthony Jones o Rydaman.
“Pan chi’n meddwl am yr holl blant wnaeth farw, na – does neb yn mynd i anghofio Aberfan.”
Roedd Mike Reynolds yn gweithio fel glöwr am 20 mlynedd ac yn credu mae Aberfan oedd y trychineb gwaethaf erioed “achos taw plant oedd e”.
“Ag oedd y plant na ddim byd i neud dim byd a glo, oedden nhw’n yr ysgol, doedd y nhw ddim hyd yn oed yn gweithio ‘na.
“Na fi’n credu anghofith neb fyth am Aberfan.”
Llun: Llywelyn2000