Yr UE yn cynnig cwtogi gwaith papur ar fewnforion rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cynnig cwtogi 80% o’r gwaith papur ar rai nwyddau o Brydain sy’n cael eu mewnforio i Iwerddon i osgoi “gwrthdaro masnach ôl-Brexit.”
Daw hyn ar ôl i Weinidog Brexit y DU, yr Arglwydd Frost fynnu protocol newydd er mwyn “atal ffin galed ar ynys Iwerddon.”
Dywedodd Marcos Sefcovic o’r Comisiwn Ewropeaidd y bydd y newidiadau’n golygu bod lori sy’n cludo cymysgwch o gynnyrch llaeth, pysgod a melysion, er enghraifft, ond yn gorfod dangos un dystysgrif yn hytrach na gwaith papur ar gyfer pob eitem.
Yn ôl Sky News, mae disgwyl i’r Arglwydd Frost a Mr Sefcovic gwrdd dros y dyddiau nesaf i drafod cynlluniau’r protocol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Jonathan Billinger