Teyrnged i ddyn lleol fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhontardawe
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhontardawe wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud ei fod wedi ei “garu’n fawr”.
Bu farw Thomas Edwards Thomas, 87 oed, yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ym Mhontardawe ddydd Llun.
Roedd Mr Thomas yn cael ei adnabod fel Eddie gan ei deulu, ac fel ‘Eddie'r Crydd’ yn y gymuned.
Yn ystod y 43 mlynedd ddiwethaf, bu’n rhedeg siop trwsio esgidiau a thorri allweddi yn Aberafan.
Roedd partner Mr Thomas, Gwyneth Morgan, yn y car gydag ef pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ac mae hi nawr yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth ar ôl dioddef anafiadau.
'Person byrlymus'
Dywedodd ei deulu: “Bydd yn cael ei golli’n fawr gan ei lysfeibion Andrew ac Alistair, a’i ŵyr Christian a’r teulu’n ehangach.
“Roedd Eddie yn chwaraewr snwcer brwd a bydd yn cael ei gofio am ei flynyddoedd yn chwarae yn y Top Club, y Jubilee a Chlwb Gweithwyr y Dynion, Pontardawe.
“Dros y blynyddoedd roedd yn gyfrifol am redeg siop crydd yn Nhreforys, lle bydd yn cael ei gofio fel person byrlymus yng nghanolfan siopa Aberafan.
“Roedd yn ffigwr oedd yn cael ei garu’n fawr, ac roedd modd ei glywed cyn ei weld.”
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod *357217.