Traean o heddluoedd wedi cyfeirio swyddogion at gorff archwilio dros honiadau aflonyddu

Cyfeiriodd bron i draean o heddluoedd Cymru a Lloegr honiadau o ymosodiad rhyw ac aflonyddu yn erbyn eu swyddogion eu hunain at gorff archwilio'r heddlu yn y dyddiau yn dilyn dedfrydu Wayne Couzens am lofruddio Sarah Everard.
Fe wnaeth y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu dderbyn 27 o adroddiadau "manwl" yn ymwneud â swyddogion a throseddau rhyw difrifol yn ystod yr wythnos ar ôl i Couzens gael dedfryd gydol oes am herwgipio, treisio a llofruddio Ms Everard tra roedd yn swyddog gyda'r heddlu.
Mae'r honiadau'n cynnwys 14 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.