£25m i achub llinell reilffordd Casnewydd i Gaerloyw

ITV Cymru 08/10/2021

£25m i achub llinell reilffordd Casnewydd i Gaerloyw

Mae'r linell rheilffordd sy'n cysylltu de Cymru â Lloegr yn mynd i dderbyn hwb ariannol i'w "hachub" rhag effeithiau newid hinsawdd, yn ôl un o gwmnïau rheilffyrdd mwyaf y DU.

Mae Network Rail wedi cyhoeddi buddsoddiad o £25m ar gyfer y llinell o Gasnewydd i Gaerloyw, sy'n cysylltu de Cymru gyda gorllewin, canolbarth a gogledd Lloegr.

Mae'r ffordd, sy’n rhedeg ar hyd Aber Hafren, yn agored i law, gwynt a’r môr. Mae’r tywydd eithafol wedi achosi’r ffordd i gael ei difetha gan bum tirlithriad mawr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae hyn wedi arwain at gau’r rheilffordd am gyfnod estynedig a chyfyngiadau cyflymder dros dro, sydd wedi gohirio dros 200,000 o drenau.

Image
ITV Cymru

Mae'r linell rheilffordd sy'n cysylltu de Cymru â Lloegr yn mynd i dderbyn hwb ariannol i'w "hachub" rhag effeithiau newid hinsawdd. 

Dywedodd Heledd Walters, rheolwr prosiect i Network Rail: “Ni fan hyn ar hyd yr Hafren felly mae gen ni asedau uchel iawn.

“Mae’r risg o dirlithriad yn un difrifol gan fod y trên yn teithio ar hyd y trac yma. Ac o ganlyniad mae’n bwysig bod ni’n buddsoddi yn y gwaith yma”.  

Ychwanegodd Bill Kelly, cyfarwyddwr ffordd i Network Rail Cymru: "Rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn digwyddiadau tywydd eithafol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

"Mae newid hinsawdd yn digwydd fan hyn nawr, ac ar draws Cymru a'r ffin - o Gwm Conwy i Aber Hafren - rydyn ni'n ymateb trwy adeiladu rheilffordd fwy gwydn.”

"Yn ogystal ag arbed arian trethdalwyr a lleihau oedi i deithwyr a chludo nwyddau - rydyn ni'n amddiffyn y cyswllt trafnidiaeth hanfodol yma am genedlaethau i ddod."

Disgwylir i'r gwaith ar y ffyrdd i ddechrau yn haf 2022 a bydd yn cynnwys cael gwared ar fwy na 30,000 tunnell o ddeunydd o wyneb y clogwyn.

Lluniau: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.