Amlosgfa i gynnal gwasanaeth coffa i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ers y pandemig

09/10/2021
Cannwyll

Mae amlosgfa yn sir Conwy am gynnal gwasanaeth coffa i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y cyfnod ers dechrau'r pandemig.

Fe fydd gwasanaeth 'Nid Anghofiaf i Byth Mohonot' yn cael ei gynnal yng Nghapel Amlosgfa Bae Colwyn ddydd Sadwrn, 9 Hydref.

Bydd y gwasanaeth ddwyieithog yn cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth a chanhwyllau.

Dywedodd Victoria Currie, Rheolwr yr Amlosgfa a Mynwentydd: "Oherwydd y pandemig cafodd angladdau eu trefnu yn wahanol iawn y llynedd. Bu’n rhaid cyfyngu ar niferoedd mewn gwasanaethau ac nid oedd rhai pobl yn gallu bod yn bresennol.

“Roedd arnom ni eisiau rhoi cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a chofio.”

Yn ôl yr amlosgfa, roedd 100 o docynnau ar gael ar gyfer y gwasanaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.