Newyddion S4C

Llif lafa newydd yn peryglu trefi ar ynys La Palma

Al Jazeera 04/10/2021
Llun o losgfynydd La Palma

Mae llosgfynydd a ffrwydrodd ar 18 Medi ar ynys La Palma wedi mynd yn “fwy ymosodol” wrth i ran o’r mynydd ffrwydro eto yn hwyr nos Sul.

Yn ôl Al Jazeera, mae llif lafa newydd yn peryglu sawl tref gerllaw.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez wedi dweud y bydd y wlad yn helpu ynys La Palma, sydd yn rhan o'r Ynysoedd Dedwydd, i adfer ar ôl y digwyddiad.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Mr Sanchez: “Ddydd Mawrth, bydd y cabinet yn cytuno ar gyfres o fesurau pwerus iawn [i helpu gydag] ardaloedd fel ail-adeiladu isadeiledd, cyflenwad dwr, cyflogadwyedd, amaeth a thwristiaeth.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.  

Llun: INVOLCAN

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.