Pryderon yn Y Bermo am effaith cynlluniau atal llifogydd

Newyddion S4C

Pryderon yn Y Bermo am effaith cynlluniau atal llifogydd

Mae rhai o drigolion tref yn Ne Gwynedd sydd wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ers blynyddoedd, yn pryderu am gynlluniau sy'n ceisio lliniaru effaith newid hinsawdd ar y dref.

Mae trigolion a gwleidyddion lleol yn Y Bermo (Abermaw) yn pryderu am effaith adeiladu morglawdd amddiffynnol, ar ddyfodol y dref glan môr.

Mae cynlluniau ar y gweill gan y cyngor sir i gryfhau mesurau amddiffyn llifogydd Y Bermo er mwyn "diogelu dros 700 o dai sydd ar hyn o bryd mewn perygl o lifogydd arfordirol".

Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd yng Nghei Gogledd Abermaw wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, ond mae pryderon yn lleol am effaith y cynllun presennol.

Fel rhan o’r cynlluniau, mae codi wal goncrit hyd at bum troedfedd chwe modfedd o uchder o flaen ystâd o dai sydd wedi ei lleoli ar bromenâd y dref.

"Am fod hi mor uchel, mae hi am edrych yn hyll, mae‘ hynny yn wir,“ meddai Stephen Staff sy’n rhedeg busnes ar y prom ers dros 40 o flynyddoedd.

Ond mae Mr Staff yn croesawu'r cynllun ar y cyfan: "Mewn 50 mlynedd, dwi’n siŵr fysa’r bobl sy’n byw yn y tai yma yn hapus fod wal fel hyn yma."

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae sawl digwyddiad o ymgynghori gyda’r gymuned leol wedi bod ers 2019, ond yn ôl y Cynghorydd lleol, Wendy Cleaver, "mae angen mwy o ymgynghori, a mwy o drafodaethau".

Image
Cynghorydd Cleaver
Y Cynghorydd Wendy Cleaver

"Pam fod y wal mor uchel? Pam fod rhaid iddo fod allan o goncrit? Oes rhaid iddo fod yno?" yw rhai o gwestiynau’r Cynghorydd Cleaver.

"Dan ni’n croesawu amddiffynfeydd llifogydd, ond 'dan ni jyst eisiau gwybod pam fod y wal fel yma? Pam fod o wedi ei wneud allan o goncrit?

"Mae popeth wedi eu neud o garreg yn Y Bermo, mae mor brydferth yma, felly wrth gwrs y bydd o’n cael effaith fawr ar y dref."

Yn ôl Cyngor Gwynedd, roedd y datblygiad yn destun Ymgynghoriad Cyn-Cais Cynllunio ddiwedd 2025, gyda’r broses statudol yn "darparu cyfle i ymgysylltu’r gymuned leol â’r awdurdodau cynllunio".

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r adborth a dderbyniwyd fel rhan o’r broses YCC ac yn bwriadu cynnal rhagor o ymgysylltu cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.