Dyn 60 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot
02/10/2021
Mae beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng cylchdro Ffordd Afan a Pharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot ddydd Gwener.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys beic modur a nifer o geir, ar y A4241 oddeutu 16:45.
Bu farw'r dyn 60 oed yn y fan a’r lle. Roedd y ffordd ar gau o'r ddwy ochr am ychydig o oriau.
Mae Heddlu De Cymru nawr yn apelio i unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd bryd hynny a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau dashfwrdd sy’n dangos y gwrthdrawiad i gysylltwch â nhw trwy sgwrs gwe neu trwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100345582.