Newyddion S4C

Teithiau fferi'r 'booze cruise' yn dychwelyd wedi Brexit

The Irish Times 02/10/2021
CC

Mae cwmni llongau fferi Stena Line yn adrodd fod cynnydd sylweddol wedi bod dros yr haf yng ngwerthiant alcohol di-doll ar eu llongau rhwng Cymru a'r Iwerddon.

Dywed The Irish Times fod hyn o ganlyniad i Brydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan fod modd prynnu alcohol di-doll ar deithiau fferi rhwng Prydain a'r Weriniaeth unwaith eto. 

Roedd y cynnydd yn adlais o gyfnod yr 80au gyda phoblogrwydd y 'booze cruise' pan roedd pobl manteisio ar alcohol di-doll ar longau fferi medd y Times.

Dywed Stena Line eu bod wedi gweld gwerthiant alcohol bum gwaith yn uwch ar eu llongau rhwng Caergybi a Dulyn ac Abergwaun a Rosslare. Roedd llacio cyfyngiadau Covid yn rhannol gyfrifol hefyd am y cynnydd.

Dywed The Irish Times fod effaith Brexit ar fasnach morwrol rhwng Iwerddon a'r DU wedi effeithio'n sylweddol ar deithiau masnachol cwmnïau fferi, gyda'r cynnydd mewn gwaith papur yn golygu fod cwmnïau yn Iwerddon yn masnachu'n uniongyrchol gyda gweddill Ewrop bellach.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.