Chwilio'n parhau am ddyn sydd ar goll yn Eryri
Mae'r gwasanaeth brys wedi cyhoeddi eu bod yn parhau i chwilio am ddyn 88 oed sydd wedi mynd ar goll yn Eryri yng Ngwynedd.
Does neb wedi gweld James 'Jim' Berger, sydd o Fetws Yn Rhos, ers 14:00 ddydd Mercher 8 Medi pan roedd tu allan i swyddfa'r post ym Meddgelert.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn gwisgo siwmper browngoch ac yn cario bag gwyn pan welwyd o ddiwethaf.
Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ar ddeall fod Mr Berger wedi bwriadu teithio i fynydd Cnicht ac oedd wedi dringo yno o'r blaen.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd wedi gweld neu siarad â Jim cyn neu yn ystod y diwrnod gafodd ei weld ddiwethaf, i gysylltu â nhw ar unwaith drwy ddyfynnu'r cyfeirnod Z136242.