Rhagor o garcharorion i gael eu rhyddhau'n gynnar o achos gorlenwi carchardai
Fe fydd cannoedd yn rhagor o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n gynnar o garchardai Cymru a Lloegr ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i’r drydedd don sy’n cynnwys tua 650 o garcharorion sydd dan glo am dros dwy flynedd a phum mis a llai na tua thair blynedd a dau fis gael eu rhyddhau.
Bydd tua 5,000 o garcharorion gael eu rhyddhau fesul cam dros y flwyddyn nesaf - sydd yn ostyngiad o'r 6,000 gwreiddiol - ar ôl i weinidogion ymyrryd i atal treiswyr a throseddwyr rhyw yn erbyn plant yn yr achosion mwyaf difrifol rhag cael eu rhyddhau.
Dyma'r drydedd don o garcharorion fydd a'u traed yn rhydd yn gynt na'r disgwyl o dan bolisi'r Ddeddf Dedfrydu a ddaeth i rym ar 1 Hydref.
Cafodd 700 o garcharorion eu rhyddhau fel rhan o'r don gyntaf - yn garcharorion oedd dan glo am ddedfrydau llai na 19 mis.
Yna cafodd tua 650 o garcharorion eu rhyddhau o dan yr ail don yn gynharach yn y flwyddyn.
Gorlenwi
Bwriad cynllun Llywodraeth y DU yw i leihau nifer y carcharorion drwy ryddhau rhai ohonyn nhw’n gynnar, yn sgil gorlenwi mewn carchardai.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi cyhoeddi'n flaenorol na fydd unrhyw un a gafwyd yn euog o ladd anghyfreithlon yn gymwys i gael ei ryddhau o’r carchar yn gynnar.
Bydd carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant hefyd yn cael eu heithrio o’r newidiadau.
Dywedodd adran cyfiawnder Llywodraeth y DU y bydd y troseddwyr yn cael eu monitro dan y system goruchwylio “mwyaf llym yn hanes Prydain.”
Ond mae dioddefwyr mathau eraill o droseddau wedi galw am gyfyngiadau pellach.
Yn gynharach eleni, dywedodd dynes o Wynedd gafodd ei bygwth gyda gwn gan ei chyn-bartner y dylai troseddwyr camdriniaeth ddomestig gael eu cadw dan glo gan nad ydy’r system i’w goruchwylio’n gweithio’n effeithiol.
“Fel mae pethau ar hyn o bryd, o ystyried lefel y risg sy’n gysylltiedig â rhai o’r troseddwyr dan sylw, dw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu rhyddhau,” meddai Rhianon Bragg.
Llun: PA
