'Technoleg ar garlam': Lansio pecyn ar sut i ddefnyddio AI yn ddiogel yn y dosbarth
Mae cyn-bennaeth ysgol wedi rhybuddio bod gorddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial mewn perygl o greu cenhedlaeth o bobl ifanc sydd heb y gallu i feddwl drostynt eu hunain wrth i’r dechnoleg ddatblygu.
Mae Meinir Lloyd Jones yn brif ymgynghorydd addysg gydag ymgynghoriaeth busnes Lafan ar Ynys Môn.
Mae hi wedi creu pecyn dwyieithog newydd i’w lawrlwytho am ddim ar gyfer disgyblion er mwyn cynnig cymorth ar sut i ddefnyddio AI yn ddiogel.
Cafodd y pecyn ei addasu a'i gyfieithu i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru o adnodd cychwynnol a grëwyd ar gyfer ysgolion yn Lloegr gan yr ymgynghorydd addysg Phil Wickins o Run Don't Walk Computing.
Bydd Meinir, a fu'n bennaeth yn Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst am wyth mlynedd, hefyd yn cynnal gweminar ar 26 Tachwedd er mwyn dangos sut y gall athrawon ddefnyddio'r adnodd.
Mae'n dweud bod y pecyn pum gwers yn amlinellu "dull moesegol, cyfrifol a diogel" o ddefnyddio AI mewn ysgolion.
'Technoleg ar garlam'
Dywedodd Meinir: "Mae technoleg yn symud ymlaen ar garlam ac mae yna deimlad ymhlith staff ysgol eu bod mewn ychydig o limbo gyda golwg ar AI lle nad ydyn nhw'n siŵr beth ddylen nhw fod yn ei drafod gyda dysgwyr.
"Gallai fod yn niweidiol iawn i ddatblygiad gwybyddol dysgwyr os ydyn nhw'n allanoli eu gwaith i AI oherwydd nad ydyn nhw'n meddwl drostyn nhw eu hunain.
"Mae'n bwysig i ddysgwyr ddeall beth yw artiffisial, a beth yw realiti, fel y gallan nhw wahaniaethu rhwng dynol a pheiriant.
"Yn aml iawn mae'r allbwn rydych chi'n ei gael o system AI yn swnio'n gredadwy iawn, ac mae pryderon difrifol yn codi os nad ydych chi'n deall bod angen i chi ei gwestiynu."
Ychwanegodd bod ei phecyn dysgu "yn gwneud yn siŵr bod y dysgwyr yn deall beth yw AI, nid yn unig fel system, ond er mwyn oddyn nhw hefyd ddeall yr eirfa, deall y rhagfarn, a deall beth yw artiffisial."
"Mae'r pecyn yn ymwneud ag uwchsgilio dysgwyr a'u cael i feddwl, eu cael i wirio beth maen nhw'n edrych arno, sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth ac yn cwestiynu hynny a'i gywiro cyn rhagdybio ei fod yn gywir."
Y cadarnhaol a'r negyddol
Dywedodd Meinir Lloyd Jones fod ei chwrs newydd yn annog dysgwyr i ddeall y pethau cadarnhaol a'r negyddol o ddefnyddio AI.
Dywedodd: "Mae yna hefyd gyfleoedd gydag AI o ran ysgafnhau llwyth gwaith staff a’i ddefnyddio i gefnogi cynllunio gwersi, ac mae hynny o bosibl yn caniatáu mwy o amser i staff baratoi sesiynau diddorol a dysgu wyneb yn wyneb.
"Mae'r pecyn wedi'i anelu at ddysgwyr ar gam cynnydd tri, rhwng wyth ac 11 oed.
Dywedodd Meinir Lloyd Jones: "Mae hwn yn un o'r prosiectau hynny rwy’n credu'n angerddol ynddo ac roedd yn haws, gydag ewyllys da Phil, i ni ei roi at ei gilydd ein hunain.
"Weithiau fel cwmni rydyn ni'n gweld rhywbeth sy’n werth ei wneud dim ond oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud ac mae hwn yn sicr yn un o’r pethau hynny."
"Rwyf am i blant a'u hathrawon gael ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n dod."
