Cleifion arennau risg uchel yng Nghymru yn rhan o astudiaeth Covid-19 newydd
Mae cleifion arennau ledled Cymru, gan gynnwys rhai â thrawsblaniadau aren, yn cymryd rhan mewn treial clinigol cenedlaethol i ymchwilio i effeithiolrwydd chwistrell trwynol i atal Covid-19.
Mae'r treial, sy'n cael ei alw'n Protect-V, eisoes wedi cofrestru mwy na 300 o gelifion sy'n agored i niwed clinigol â chlefydau datblygedig yn yr arennau ledled y DU.
Pwrpas y treial yw i brofi a yw Niclosamide - cyffur a ddefnyddir i drin haint llyngyr, yn atal Covid-19 mewn cleifion sy'n agored i niwed.
Un o'r cyfrannwyr yn y treial yw'r cyn-nyrs o Fargam, Helen Williams.
Cafodd Helen Williams drawsblaniad yn 2012 ar ôl i'w gŵr roi ei aren iddi fel rhan o'r cynllun rhoddion cyfun.
Mae Helen, sydd yn 55 oed, wedi gorfod gwarchod ei hun ac aros adref ers dechrau'r pandemig oherwydd bod ei thrawsblaniad a'i meddyginiaeth yn golygu bod ganddi system iminwedd fregus.
'Rhywbeth y gallaf ei wneud i'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n dal i warchod'
“Mae'r pandemig wedi bod yn arbennig o galed i'm teulu," meddai.
"Mae fy ngŵr yn anesthetydd ymgynghorol a oedd yn gweithio yn yr uned ICU yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a bu’n rhaid iddo symud allan i fy amddiffyn i a fy merch sydd hefyd yn dioddef o’r un clefyd genetig polycystig yn yr arennau.
“Rwy’n falch iawn o gael cynnig cyfle i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Mae'n rhywbeth y gallaf ei wneud i'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n dal i warchod, ac nad ydyn nhw wedi gallu dychwelyd i unrhyw fath o normalrwydd.
“Rydw i mor falch o fod yn gyfranogwr, mae'r ymchwil hwn mor bwysig a gobeithio y byddaf yn ychwanegu haen arall o ddiogelwch, gan ein bod wirioneddol angen hyn.
“Pe na bai gennym astudiaethau fel yr un yma, byddwn yn gorfod aros yn gaeth i'm hystafell fyw am y dyfodol rhagweladwy - felly rwy'n hapus i chwarae fy rhan mewn unrhyw ffordd y gallaf.”
'Y Cymry yn chwarae eu rhan'
Disgwylir i'r treial bara am 15 mis ac mae'n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Caergrawnt.
Ddwywaith y dydd, mae disgwyl i Helen Williams gymryd chwistrell trwynol o'r cyffur ac yna siarad gyda thîm yng Nghaerdydd unwaith yr wythnos i wirio unrhyw symptomau.
Os bydd y treial yn llwyddiannus, bydd modd rhannu'r canfyddiadau gyda'r bobl sydd â chlefydau arennau a hunan-imiwn o fewn misoedd, yn ôl Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Nicola Williams.
“Mae Cymru wedi chwarae rhan enfawr yn ymateb ymchwil COVID-19 i helpu i leihau trosglwyddiad a difrifoldeb y feirws hwn," ychwanegodd.
"Rydym yn falch o gael sawl safle ar gael eto fel y gall Cymry chwarae eu rhan.”
Llun: Helen Williams