Gyrrwr car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A483 ger y Drenewydd ym Mhowys.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r A483 tua 13:10 ddydd Sul yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud ag un cerbyd, car Dacia Sandero llwyd, ac fe ddigwyddodd i'r de o gylchfan Laura Ashley, i gyfeiriad Dolfor.
Bu farw gyrrwr y car yn y fan a'r lle. Mae teulu'r gyrrwr yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd yr heddlu nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod unrhyw unigolion neu gerbydau eraill wedi bod ynghlwm â'r gwrthdrawiad.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, neu sydd â recordiadau o gamera dangosfwrdd, i gysylltu â nhw.
Mae modd cysylltu â'r heddlu ar-lein, drwy e-bost neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20261025-206.
