Casnewydd: Dyn 66 oed yn pledio'n euog i lofruddio mam i bedwar

Charlene Dowsell
Charlene Dowsell

Mae dyn 66 oed o Gasnewydd wedi cyfaddef llofruddio mam i bedwar o blant.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, plediodd Albert Williams yn euog i lofruddio Charlene Dowsell a oedd yn 41 oed,  yn gynharach eleni.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion heddlu arfog, eu galw i dŷ ar Heol St Vincent yn y ddinas yn ystod oriau mân fore Sadwrn 18 Gorffennaf eleni, wedi adroddiadau am ffrae y tu allan i'r cartef.

Cadarnhaodd parafeddygon bod Ms Dowsell wedi marw, a hynny ar Ffordd Cas-gwent, ychydig bellter o Heol St Vincent.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, wrth Williams:

“Gan eich bod bellach wedi pledio’n euog i’r drosedd o lofruddiaeth, yr unig ddedfryd y gellir ei rhoi i chi, wrth gwrs, yw carchar am oes.”

Bydd Williams yn cael ei ddedfrydu ar 21 Rhagfyr.

Mewn teyrnged yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Dowsell: “Mae pobl yn dweud bod amser yn lleddfu’r boen, ond ni fydd amser fyth yn newid sut rydym ni fel teulu yn teimlo.

“Roedd pawb oedd wir yn dy adnabod yn dy garu gymaint. Rwyt ti wedi gadael ein calonnau ar chwâl – rydyn ni i gyd mewn sioc.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud, ond rydyn ni’n cael cysur o’r atgofion sydd gennym ohonot ti. Doeddet ti ddim yn haeddu’r hyn a ddigwyddodd i ti, ein merch annwyl.

“Mae colli ein merch mor ifanc yn dorcalonnus. Hi oedd conglfaen ein teulu, a hebddi hi, mae’n anodd gwybod beth i’w wneud na beth fydd yn digwydd nesaf.

“Mae meddwl am bedwar plentyn heb eu mam yn dorcalonnus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.