Llanuwchllyn: Teyrnged i ddyn 58 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad

Chris Johnson

Mae teulu dyn 58 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn ger Y Bala wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Chris Johnson, o ardal y Rhyl, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A494 yn y pentref tua 19:35 ar 15 Hydref.

Bu farw Mr Johnson, a oedd yn gyrru car BMW, yn y fan a'r lle.

Dywedodd ei deulu y bydd colled fawr ar ei ôl.

"Doedd Chris yn caru dim mwy na mynd allan gyda'i ffrindiau ar ei feic modur, gan deithio ar hyd ffyrdd prydferth gogledd Cymru, neu dreulio amser yn y gampfa," meddai'r teulu.

"Roedd bob amser yn barod i gefnogi unrhyw un, gan gynnwys ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr, pan oedd angen cymorth arnyn nhw.

"Roedd Chris yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, ewythr ac yn gefnder, ac yn ganolog i'n teulu.

"Roedd yn gallu gwneud i chi wenu hyd yn oed yn ystod yr adegau anoddaf, ac roedd yn gweld yr ochr gadarnhaol i gymaint o bethau.

"Does dim geiriau i ddisgrifio'r effaith gafodd ar gynifer o bobl."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw alaru am ei farwolaeth.

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

Mae'n nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ag Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000849235.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.