Trefor: Cyhuddo dyn 65 oed wedi i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol
Mae dyn 65 oed wedi’i gyhuddo yn dilyn digwyddiad ym mhentref Trefor, Gwynedd, lle cafodd dyn arall ei anafu’n ddifrifol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stad Hen Ysgol yn Nhrefor tua 18:00 nos Wener, 23 Hydref, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Cafodd Steven Parry, 65 oed, o Hen Ysgol, Trefor, ei arestio ac mae bellach wedi’i gyhuddo o glwyfo gyda bwriad ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn cartref preifat.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Cafodd dyn arall hefyd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ond mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd swyddogion yn parhau i batrolio’r ardal er mwyn tawelu meddyliau trigolion.
Mae’r llu hefyd yn annog pobl i beidio â dyfalu am amgylchiadau’r digwyddiad na chyhoeddi honiadau ar-lein a allai effeithio ar achos llys yn y dyfodol neu danseilio’r broses gyfiawnder.
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu drwy ffonio 101 neu ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000871650.
