Beth allwn ni ei ddisgwyl yng Nghyllideb gyntaf John Healey?
Bydd John Healey yn cyflwyno ei Gyllideb gyntaf fel Canghellor ddydd Mercher.
Daw hynny wrth i'r DU wynebu sefyllfa economaidd anodd, sydd wedi gwaethygu oherwydd costau benthyca uchel a'r rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran.
Mae'r pwysau ar y cyllid cyhoeddus yn golygu y bydd gallu'r Canghellor i gyhoeddi mesurau hael yn y Gyllideb yn gyfyngedig.
Mae Mr Healey wedi addo glynu wrth y rheolau cyllidol a osodwyd gan ei ragflaenydd, Rachel Reeves.
Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i wariant o ddydd i ddydd gael ei ariannu drwy drethi yn hytrach na benthyca erbyn 2029/30.
Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl gan Gyllideb Mr Healey?
Ystyried cynyddu treth ar fanciau
Mae'r Canghellor yn ystyried cynyddu'r dreth ychwanegol ar elw banciau o 3% i 8%, gan wrthdroi toriad treth a gyflwynwyd i'r sector gan y cyn-Ganghellor Jeremy Hunt.
Dywedodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), sy'n cefnogi'r newid, y byddai cynyddu'r dreth ar "elw enfawr" banciau yn codi £2.25 biliwn y flwyddyn.
Ond mae cynrychiolwyr y diwydiant ariannol, sydd wedi'i leoli'n bennaf yn Llundain, wedi rhybuddio y byddai'r newid yn rhwystro buddsoddiad yn y DU.
Deallusrwydd artiffisial
Bydd mwy na £600 miliwn yn cael ei neilltuo i amrywiaeth o brosiectau i ddatblygu deallusrwydd artiffisial a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel.
Bydd hyn yn cynnwys £165 miliwn ar gyfer menter genedlaethol ar fioddiogelwch (biosecurity) a deallusrwydd artiffisial, a £120 miliwn ychwanegol i'r Sefydliad Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial.
Bydd £60 miliwn hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer tarian seiber genedlaethol, a fydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i amddiffyn rhag hacwyr.
Rhagor o arian i amddiffyn?
Fe ymddiswyddodd Mr Healey o'i swydd fel Ysgrifennydd Amddiffyn yn llywodraeth Syr Keir Starmer, gan ddweud nad oedd digon o arian yn cael ei neilltuo i'r lluoedd arfog.
Roedd yn dadlau bod angen i wariant ar amddiffyn gyrraedd 3% o gynnyrch domestig gros (GDP) y DU erbyn 2030.
Pan oedd yn Brif Weinidog, addawodd Syr Keir Starmer £15 biliwn ychwanegol i sector amddiffyn y DU.
Ond dim ond £10.3 biliwn a gafodd ei neilltuo, gan adael bwlch o £4.7 biliwn y mae Mr Healey wedi addo ei lenwi.
Byddai'r arian ychwanegol yn golygu bod gwariant y Llywodraeth ar amddiffyn yn codi i 2.7% o'r economi erbyn 2027.
'Lle i anadlu' i aelwydydd a busnesau
Mae disgwyl i fesurau i leddfu effaith costau cynyddol fod yn rhan amlwg o'r Gyllideb.
Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i'r Canghellor ystyried dileu'r tâl sefydlog dyddiol y mae cwsmeriaid yn ei dalu am gyflenwad nwy, waeth faint o nwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
Mae Prif Weinidog y DU hefyd am dorri'r cysylltiad rhwng prisiau nwy cyfanwerthol a phrisiau trydan.
Mae Mr Healey hefyd dan bwysau i ganslo'r cynnydd arfaethedig yn y dreth ar danwydd ym mis Ionawr.
Nid yw cyfradd y dreth wedi codi ers 2011.
Rhai cyhoeddiadau'n effeithio ar Loegr yn unig
Bydd £285 miliwn cychwynnol yn cael ei neilltuo fel rhan o gynllun i roi mwy o arian a phwerau i feiri ac arweinwyr rhanbarthol yn Lloegr fuddsoddi mewn prosiectau yn eu hardaloedd.
Bydd £432 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei neilltuo i raglen sy'n helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn Lloegr i ddod o hyd i lety.
Bydd mwy na £1 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy.
Bydd cronfa o £7 miliwn hefyd ar gael i gynnal astudiaeth i'r posibilrwydd o wneud cais i gynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yng ngogledd Lloegr yn y dyfodol.
Mae'n bosib y bydd Llywodraeth Cymru yn cael rhagor o arian yn ei chyllideb os bydd gwariant ychwanegol yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru.
