Gobeithio dod â darn o un o leuadau y Blaned Mawrth yn ôl i’r Ddaear

Phobos

Bydd taith i’r blaned Mawrth yn cychwyn ddydd Llun gyda’r nod o ddod â sampl o Phobos, un o leuadau’r blaned, yn ôl i’r Ddaear.

Os bydd y daith yn llwyddiannus, dyma fydd y tro cyntaf i sampl o’r blaned Mawrth neu un o’i lleuadau gael ei dychwelyd i’r Ddaear i’w dadansoddi mewn labordai.

Bydd y llong ofod yn cael ei lansio o Japan a disgwylir iddi gyrraedd Phobos ym mis Awst 2027.

Dywedodd yr Athro Sara Russell, dirprwy arweinydd y gwaith o ddadansoddi samplau ar daith Martian Moons eXploration (MMX), nad oes “taith lwyddiannus wedi bod eto i fynd i Phobos a dod â darn ohono yn ôl i’r Ddaear”.

“Rwy’n credu bod hon yn daith hynod uchelgeisiol,” meddai.

Dim ond tair lleuad sydd yng nghysawd mewnol yr Haul: ein Lleuad ni, a’r ddwy sy’n cylchdroi’r blaned Mawrth, sef Phobos a Deimos.

Mae’r ddwy leuad sy’n cylchdroi’r blaned Mawrth yn fach iawn.

Mae Phobos tua 20km (12 milltir) ar draws, a Deimos tua 10km (chwe milltir) ar draws.

Y bwriad yw gosod cerbyd bach ar wyneb Phobos i archwilio’r tir, ond ni fydd hynny’n hawdd.

Yn ôl Sara Russell, does neb erioed wedi llwyddo i lanio cerbyd ar leuad mor fach.

“Does gan y lleuad ei hun ddim llawer o ddisgyrchiant,” eglurodd.

“Ond mae hi wrth ymyl planed enfawr sydd â disgyrchiant llawer cryfach, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n llawer anoddach cael cerbyd ar yr wyneb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.