Llywodraeth y DU i greu Bwrdd Rheilffordd i Gymru
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo argymhelliad i greu Bwrdd Rheilffordd i Gymru.
Daw hyn yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.
Bydd y bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, gwasanaethau rheilffyrdd, Network Rail a Thrafnidiaeth i Gymru.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn anelu i weld y rhwydwaith rheilffordd yn cael ei “ddatganoli’n llawn” o San Steffan.
Serch hynny, ychwanegodd ei bod yn cefnogi’r “angen am gydweithredu strategol ac agos”.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU fod disgwyl i’r bwrdd gwrdd cyn diwedd y flwyddyn.
Mae aelod o’r pwyllgor a’r AS Ceidwadol dros Breseli Penfro, Stephen Crabb, wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Fe glywsom gan nifer yn ystod ein hymchwiliad bod angen mwy o gydweithio er mwyn ysgogi buddsoddiad a gwelliannau, a gobeithio y bydd y Bwrdd yn cyflawni hynny.
“Mae croeso hefyd i ba mor gyflym maen nhw wedi dechrau ymgynnull, a gobeithio y bydd pobl ledled Cymru yn dechrau gweld y buddion yn bwydo drwodd i deithiau rheilffordd.”
Dim cyfran o wariant HS2 i Gymru
Cytuno ag argymhellion eraill y Pwyllgor Materion Cymreig yn rhannol wnaeth Llywodraeth y DU, gan wrthod galwadau’r Pwyllgor i weld Cymru yn derbyn cyfran o’r arian sy’n cael ei wario ar gynllun HS2.
Mae’r Pwyllgor eisoes wedi dweud y dylid dynodi’r prosiect fel cynllun i Loegr yn unig, fel bod Cymru’n derbyn buddion trwy Fformiwla Barnett.
‘Setliad ariannol teg’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ein hamcan tymor hir yw gweld y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli’n llawn a gweld setliad ariannu teg ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
“Fodd bynnag, ar wahân i bwy sy’n gyfrifol yn y tymor byr, rydym yn cefnogi’r angen am gydweithrediad strategol agos i sicrhau fod seilwaith yn cael ei ddarparu er mwyn diwallu anghenion teithwyr, ac i gyrraedd ein huchelgeisiau i annog newid tuag at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cefnogi ein hymrwymiadau digarboneiddio.”