Tylluan wen a chacwn du-a-melyn ar arian papur newydd Banc Lloegr
Bydd tylluanod, cacwn, draenogod a phalod yn ymddangos ar y set nesaf o arian papur gan Fanc Lloegr, wedi i'r rhywogaethau ddod i'r brig mewn ymgynghoriad cyhoeddus.
Fe fydd y cyntaf o'r papurau arian yn cael ei lansio yn y blynyddoedd nesaf, meddai'r banc, gan ychwanegu fod y broses o ddylunio, profi ac argraffu arian yn broses sy'n para blynyddoedd.
Dim ond dyluniadau cynnar iawn sydd wedi’u llunio hyd yma a bydd delweddau o'r papurau £5, £10, £20 a £50 yn cael eu datgelu yn hwyrach yn y broses.
Fe ddaeth y banc, sydd â monopoli dros gyflwyno arian papur yng Nghymru a Lloegr, i benderfyniad am y pedwar rhywogaeth yn dilyn ymgynghoriad dros yr haf a ddenodd ymateb gan bron i 500,000 o bobl.
Cafodd y cyhoedd gyfle i bleidleisio am 18 anifail i gyd, wedi'u rhannu i dri chategori.
Y gacynen cynffon lwydfelyn (360,399 enwebiad) ddaeth i'r brig ymhlith yr amffibiaid, pryfed a physgod, gyda'r dylluan wen (270,596) yn ennill o blith yr adar, a'r draenog Ewropeaidd (259,665) yn ben ar y mamaliaid.
Fe gafodd pâl yr Iwerydd, sy'n byw mewn niferoedd helaeth ar ynysoedd fel Sgomer yn Sir Benfro, ei dewis i gynrychioli anifeiliaid morol, er bod rhywogaethau fel y llwynog coch a glas y dorlan wedi denu mwy o enwebiadau.
Dywedodd Banc Lloegr y gallai rhai o'r anifeiliaid eraill ar y rhestr fer ymddangos yn y dyluniadau terfynol ond mai'r pedwar anifail buddugol fydd wrth galon y gwaith celf. Bydd llun o bennaeth teulu brenhinol Lloegr hefyd yn parhau i ymddangos ar yr arian, cadarnhaodd y banc.
Cafodd y gyfres ddiweddaraf o arian papur Banc Lloegr ei chyhoeddi gyntaf yn 2016.
Prif lun: PA/Gareth Fuller; caroline legg, CC BY 2.0 via Wikimedia Commons; Paulo Costa, CC BY-SA 3.0 via Wikimedia Commons.