Digwyddiad cerddorol 'tanddaearol dyfnaf yn y byd' i gael ei gynnal yn Eryri
Bydd digwyddiad cerddorol "tanddaearol dyfnaf yn y byd" yn cael ei gynnal yn Eryri.
Fe fydd y DJ Roni Size yn perfformio 1,375 troedfedd o dan y ddaear yn Chwarel Lech Cwmorthin ar 15 Hydref.
Bydd nifer cyfyngedig o bobl yn cael mynd i'r digwyddiad, gyda'r trefnwyr yn dweud y bydd angen iddyn nhw deithio "drwy dywyllwch, mwd a dŵr" i gyrraedd y lleoliad.
Bydd y daith danddaearol hefyd yn cynnwys croesi ceunentydd a defnyddio llinellau gwib (zipline).
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y cwmni oriorau G-SHOCK ar y cyd â Go Below, sy'n cynnal gweithgareddau tanddaearol yng Nghwmorthin.
Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw ceisio gosod record am y "rave tanddaearol dyfnaf yn y byd".
Bydd tystiolaeth o'r digwyddiad yn cael ei chofnodi a'i chyflwyno er mwyn ceisio cael cydnabyddiaeth annibynnol o'r record wedi'r digwyddiad.
Mae Cwmorthin, ger Tanygrisiau a Blaenau Ffestiniog, yn hen chwarel a mwynglawdd llechi lle dechreuodd gwaith cloddio yn 1810.
Datblygodd yn fwynglawdd tanddaearol sylweddol yn ystod y 19eg ganrif, gyda rheilffordd yn cysylltu'r safle â Rheilffordd Ffestiniog er mwyn cludo llechi o'r cwm.
Mae'r safle hefyd yn rhan o dirwedd llechi Ffestiniog, sy'n ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
'Rhannu antur'
Bydd y cerddor Roni Size yn perfformio set arbennig mewn siambr 1,375 troedfedd o dan y ddaear.
Daeth y DJ o Fryste i amlygrwydd yn ystod y 1990au, ac fe enillodd ei grŵp Roni Size & Reprazent Wobr Mercury yn 1997 am yr albwm New Forms.
Dywedodd Roni Size ei fod wedi arfer cynnal digwyddiadau cerddorol mewn lleoliadau anarferol ym Mryste.
"Roedd raves yn gallu digwydd mewn llefydd gwallgof ac annisgwyl – ar lawnt flaen rhywun neu i lawr mewn twneli – ond yr hyn rydw i wastad wedi'i wneud yw chwarae i'r amgylchedd ac i'r dorf," meddai.
"Erbyn i ni fod 1,375 troedfedd o dan y ddaear, bydd pawb yno eisoes wedi rhannu antur."
Fel rhan o'r digwyddiad, bydd offer recordio arbenigol yn cael ei ddefnyddio i anfon dirgryniadau o'r gerddoriaeth drwy lechi'r mwynglawdd.
Yn ôl y trefnwyr, bydd elfennau o'r sain sy'n cael eu cofnodi o'r mynydd wedyn yn cael eu defnyddio fel rhan o'r set.
Bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu o Gwmorthin ar 15 Hydref, cyn i'r set lawn gael ei rhyddhau ar-lein.
Mae tocynnau cyfyngedig ar gyfer y digwyddiad yn cael eu dyrannu drwy system cofrestru, gyda'r ceisiadau'n cau ar 9 Hydref.
Bydd cyfyngiadau oedran, ffitrwydd ac offer ar y rhai sy'n cael cymryd rhan yn y daith.
Dywedodd y trefnwyr y bydd y nifer sy'n cael mynd o dan y ddaear yn gyfyngedig ac y bydd y daith yn cael ei harwain gan arbenigwyr.
Maen nhw'n dweud bod y digwyddiad hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth dechnegol, ddiogelwch a gweithredol.
