Cymru’n cofnodi’r nifer uchaf o farwolaethau wythnosol Covid-19 ers mis Mawrth

21/09/2021
Delta+

Mae Cymru wedi cofnodi’r nifer uchaf o farwolaethau wythnosol yn gysylltiedig â Covid-19 ers mis Mawrth 2021.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafodd 65 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofrestru yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 10 Medi.

Mae’r ffigwr hwn deirgwaith yn uwch na’r ffigwr ar gyfer yr wythnos flaenorol, ble cofnodwyd 25 marwolaeth Covid-19 yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 3 Medi.

Dyma’r nifer uchaf o farwolaethau i gael eu cofnodi dros gyfnod o wythnos yng Nghymru ers 12 Mawrth, pan gafodd 68 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi mewn cyfnod o wythnos.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 2,576 o achosion newydd o’r haint wedi eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Mawrth, a saith marwolaeth newydd.

Mae’r gyfradd o’r haint drwy Gymru ar ei huchaf yng Nghaerdydd, gyda’r gyfradd fesul 100,000 o’r boblogaeth dros gyfnod o saith diwrnod yn 1,541.

Serch hynny, mae’r cyfartaledd ledled Cymru yn 527.4 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth.

Mae 2,382,032 o bobl bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn yng Nghymru, a 2,211,226 wedi eu brechu yn llawn rhag Covid-19.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.