Trydydd dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad gwenwyn Salisbury

Mae trydydd dyn wedi cael ei gyhuddo gan yr heddlu mewn cysylltiad ag ymosodiadau gwenwyn Novichock yn Salisbury yn 2018.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth fod Denis Sergeev o Rwsia, oedd yn teithio dan yr enw Sergey Fedotov, yn wynebu cyhuddiadau sy’n cynnwys ceisio lladd y cyn-ysbïwr Sergei Skripal, ei ferch Yulia a’r swyddog heddlu Nick Bailey.
Yn ôl gwefan Mail Online, cyrhaeddodd Fedotov faes awyr Heathrow o Moscow ar 2 Mawrth 2018, ddeuddydd cyn yr ymosodiad.
Mae Stryd Downing wedi dweud y byddai "bron yn amhosib" i ddwyn Fedotov i gyfiawnder os yw'n aros yn Rwsia.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Peter Curbishley