Rhybudd cyflenwr bwyd y gallai prinder CO2 'ganslo’r Nadolig'
Mae prinder nwy carbon deuocsid (CO2) yn golygu y gallai’r cinio Nadolig gael ei ganslo eleni, yn ôl perchennog un o fusnesau cyflenwi dofednod yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r cynnydd mewn prisiau nwy yn golygu bod dwy ffatri gwrtaith sy’n cynhyrchu CO2 wedi cau yn Lloegr, yn ôl Sky News.
Dywedodd Ranjit Singh Boparad, perchennog busnes Bernard Matthews a grŵp bwyd 2 Sisters, bod prinder y nwy a nifer y gweithwyr yn mynd i effeithio ar y nifer o dwrcis bydd ar gael y Nadolig hwn.
Dywedodd: "Roedd y cyflenwad o dwrcis Bernard Matthews eisoes yn brin eleni a nawr, mae angen i fi ddod o hyd i 1,000 yn rhagor o weithwyr i brosesu cyflenwadau. Nawr, gyda phrinder cyflenwad C02, bydd y Nadolig wedi ei ganslo".
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Subbotina Anna-Fotolia drwy Flickr