Tocynnau Chwe Gwlad Cymru y drutaf erioed

Mae tocynnau ar gyfer gemau rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022 ar eu drutaf erioed, yn ôl Wales Online.
Fe fydd carfan Wayne Pivac yn herio'r Alban, Ffrainc a'r Eidal yng Nghaerdydd, tra bydd eu gemau yn erbyn Lloegr ac Iwerddon oddi cartref.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod y cynnydd o £10 ar rai o'r tocynnau i wylio'r gemau yn Stadiwm Principality yn adlewyrchiad o'r pwysau economaidd maen nhw'n ei wynebu yn sgil y pandemig.
Fe fydd tri chategori uchaf y tocynnau i wylio gemau Cymru yn erbyn Yr Alban a Ffrainc nawr yn £115, £105 a £100. Tro diwethaf i'r timau ymweld â'r brifddinas yn 2020, roedd y tocynnau o'r tri chategori uchaf yn costio £105, £95 a £90.
Roedd pris tocynnau yn £110 ar ei uchaf er mwyn gwylio gemau Cymru yn erbyn Iwerddon a Lloegr yn ystod twrnament 2019.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans