Dwyieithrwydd, y meddwl a hiwmor: Beth yw’r cysylltiad?

Merched yn chwerthin

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Aberystwyth yn gobeithio darganfod os oes gan siaradwyr Cymraeg synnwyr digrifwch gwahanol.

Mae astudiaethau yn y gorffenol, sydd wedi canfod fod dwyieithrwydd yn gallu bod yn fanteisiol yn wybyddol.

Ond bwriad yr astudiaeth newydd yw ystyried a yw'r manteision posib hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y modd y mae pobl ddwyieithog yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn creu hiwmor.

Bydd yr ymchwilwyr ar Stondin Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd yr wythnos hon. Byddant yn dechrau recriwtio unigolion o bob rhan o Gymru.

Eu gobaith yw gweld os yw pobl sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt yn cael profiad gwahanol o hiwmor ac yn creu hiwmor yn wahanol i bobl sydd â’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Bydd yr astudiaeth yn chwilio am bobl o Gymru a fydd yn gwneud cyfres o dasgau ar-lein ac yn ateb cwestiynau am sut maen nhw'n defnyddio hiwmor yn eu bywydau bob dydd. 

Dan arweiniad Dr Gil Greengross a Dr Hanna Binks o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect yn astudio sut mae iaith yn dylanwadu ar hiwmor, gan gynnwys sut mae'n cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ymhlith siaradwyr dwyieithog.

Dealltwriaeth newydd

Gobaith yr astudiaeth hefyd yw cael dealltwriaeth newydd am bwysigrwydd diwylliannol hiwmor yng Nghymru a rôl y Gymraeg wrth lunio rhyngweithio cymdeithasol, hunaniaeth a bywyd cymunedol.

Dywedodd Dr Hanna Binks o Brifysgol Aberystwyth, sy'n gyd-ymchwilydd ar y prosiect: "Mae gan iaith gyswllt agos â hunaniaeth, diwylliant a mynegiant emosiynol. Mae siaradwyr Cymraeg yn symud rhwng y ddwy iaith yn rheolaidd, ac rydym yn awyddus i ddeall a yw hynny'n dylanwadu ar sut mae hiwmor yn cael ei weld a’i ddefnyddio ganddynt.

"Bydd yr ymchwil hon yn dyfnhau ein dealltwriaeth am ddwyieithrwydd, gan hefyd dynnu sylw at arwyddocâd diwylliannol hiwmor o fewn cymunedau Cymraeg.  Mae'n cynnig cyfle unigryw i archwilio sut mae iaith yn dylanwadu ar sut rydyn ni'n meddwl, cyfathrebu a chreu cysylltiadau â phobl eraill."

Cymuned, diwylliant ag hunaniaeth

Bydd y tîm ymchwil yn astudio a yw siaradwyr Cymraeg yn gweld gwahanol jôcs yn ddoniol ac a ydynt yn eu hadrodd yn wahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

O fewn yr astudiaeth, byddan nhw hefyd yn ymchwilio i weld a yw'r hyblygrwydd gwybyddol sy'n gysylltiedig â medru dwy iaith yn cael ei adlewyrchu yng ngallu digrifwch pobl.

Dywedodd Dr Gil Greengross, Prif Ymchwilydd ac Uwch Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae hiwmor yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau, bron, yn amrywio o gyfeillgarwch a pherthnasoedd teuluol i sut rydym ni'n ymdopi â heriau, a’n cyswllt â'n cymunedau. 

"Ond er gwaethaf degawdau o ymchwil ar ddwyieithrwydd, ychydig iawn o sylw sydd wedi'i roi i sut mae iaith yn dylanwadu ar ein synnwyr digrifwch."

Ychwanegodd: "Hoffem wybod a yw newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn dylanwadu ar sut mae pobl yn gwerthfawrogi jôcs, creu syniadau doniol a defnyddio hiwmor mewn sefyllfaoedd bob dydd. 

"Yn ogystal â dysgu mwy i ni am seicoleg hiwmor, gallai'r canlyniadau hefyd ddweud wrthym am y manteision cymdeithasol a gwybyddol ehangach sy’n deillio o fyw mewn dwy iaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.