Burnham yn 'ystyried' cynnal ymchwiliad i weithredoedd Epstein medd Gweinidog

Alex Davies-Jones, y Gweinidog dros Ddioddefwyr

Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi dweud ei fod yn "ystyried" cynnal ymchwiliad cyhoeddus i weithredoedd y pedoffeil Jeffrey Epstein, yn ôl y Gweinidog dros Ddioddefwyr.

Wrth siarad â BBC Newsnight, dywedodd y Gweinidog dros Ddioddefwyr, Alex Davies-Jones, fod Andy Burnham wedi cytuno i gwrdd â dioddefwyr Epstein a'i fod yn "cymryd hyn o ddifrif".

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad i weithredoedd honedig cyn-berchennog Harrods, Mohamed Al Fayed.

Ym mis Mai, ymddiswyddodd Ms Davies-Jones o Gabinet Keir Starmer, gan ddweud yn ddiweddarach nad oedd y llywodraeth wedi gwrando ar ddioddefwyr Epstein. Fe'i penodwyd yn Weinidog dros Ddioddefwyr pan ddaeth Burnham yn Brif Weinidog.

Pan ofynnwyd iddi a oedd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei ystyried, dywedodd:

"Rydyn ni'n edrych ar hyn ac yn adolygu beth sy'n bosibl... ac mae'r un peth yn wir am oroeswyr Harrods.

"Mae ymchwiliad statudol eisoes ar y gweill i ymdrin â dioddefwyr y gangiau meithrin perthynas amhriodol. Rwyf wedi cael sicrwydd bod y Prif Weinidog yn cymryd hyn o ddifrif.

"Bydd yn cwrdd â'r dioddefwyr hynny, ac mae'n edrych ar yr hyn sy'n bosibl, nawr bod ganddo fynediad at yr holl wybodaeth yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog, er mwyn gweld pa gamau y gallwn eu cymryd."

Dywedodd Ms Davies-Jones wrth y BBC ei bod wedi cael sicrwydd cyn ymuno â llywodraeth Burnham y byddai'n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.

"Fe wnes i gael sawl sgwrs gydag ef a'i dîm," meddai.

"Fe gytunodd i gwrdd â dioddefwyr Epstein. Roedd mewn cysylltiad agos â nhw drwy gydol y cyfnod pan oedd ar fin dod yn Brif Weinidog, ac mae wedi rhoi sicrwydd i mi y bydd yn cwrdd â nhw nawr ei fod yn Brif Weinidog.

"Bydd hefyd yn gweithio gyda ni i ystyried newidiadau systemig ar draws y system ar gyfer pob dioddefwr, boed hynny'n ddioddefwyr Epstein, goroeswyr Harrods neu ddioddefwyr y gangiau meithrin perthynas amhriodol."

Dywedodd Lisa Phillips, un o oroeswyr Jeffrey Epstein, wrth y BBC ei bod yn gobeithio y byddai cyfarfod ag Andy Burnham yn nodi "dechrau pennod newydd, lle mae goroeswyr yn cael eu clywed, gwersi'n cael eu dysgu, sefydliadau'n cael eu dwyn i gyfrif lle bo'n briodol, a diwygiadau parhaol yn helpu i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol".

Llun: Yui Mok/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.