Dau gylchgrawn Cymraeg i blant a phobl ifanc yn dod i ben
Dau gylchgrawn Cymraeg i blant a phobl ifanc yn dod i ben
Bydd dau gylchgrawn Cymraeg i blant a phobl ifanc yn dod i ben ar ôl methu â sicrhau arian grant newydd i’w cynnal.
Ni fydd y cylchgrawn i blant Wcw a’i Ffrindiau, na’r cylchgrawn i fenywod ifanc Lysh Cymru, yn derbyn Grant Cylchgronau Cymraeg y Cyngor Llyfrau.
Mae’r grant yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, ac yn cael ei ddyfarnu bob pedair blynedd yn dilyn proses dendro.
Dywedodd Owain Schiavone, prif weithredwr Golwg, sy’n cyhoeddi Wcw a’i Ffrindiau, fod y cwmni bellach yn paratoi i ddod â’r comic i ben ar ôl 30 mlynedd.
"'Da ni’n dathlu 30 mlynedd o Wcw a'i Ffrindiau eleni, felly yn amlwg ‘da ni'n drist iawn ynglŷn â'r sefyllfa," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae'n dweud fod y cylchgrawn wedi "dioddef yn enbyd" ers y cyfnod clo yn sgil y pandemig yn 2020.
"Roeddan ni'n arfer gwerthu a hyrwyddo trwy’r ysgolion cynradd, ond bu’n rhaid i ni newid hynny yn y cyfnod clo achos doedd yr ysgolion wrth reswm ddim yn derbyn cylchgronau i'r ysgolion," meddai.
"Felly wnaethon ni orfod digido'r holl broses, ac ers hynny mi gwympodd niferoedd tanysgrifwyr yn eithriadol."
Cyn y pandemig, dywedodd Owain fod rhwng 3,000 a 4,000 o bobl yn tanysgrifio i Wcw a’i Ffrindiau bob blwyddyn, ond bod y niferoedd wedi gostwng i rhwng 700 ac 800 o danysgrifwyr erbyn hyn.
Er gwaethaf y gefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau i geisio adfer y cylchgrawn, dywedodd nad oedd wedi bod yn bosib adennill nifer y tanysgrifwyr.
"Doedd o ddim yn syndod mawr yn anffodus," meddai.
"Ond yn amlwg gan mai hon yw'r unig gomic Cymraeg i blant sydd mewn print erbyn hyn, mae o'n newyddion trist - yn enwedig o ystyried bod plant yn treulio mwy a mwy ar eu sgriniau."
Yn ôl Mr Schiavone, mae ymchwil y cwmni’n awgrymu bod rhieni ac athrawon yn dal i weld gwerth mewn cylchgrawn print, ond nad oes cefnogaeth ddigonol iddo.
"Y neges syml mewn ffordd i unrhyw un sydd yn gefnogol o gylchgronau Cymraeg ydi, mae’n rhaid i chi ddefnyddio, mae’n rhaid i chi danysgrifio," meddai.
"Use it or lose it fel ddywed Sais ynde, felly mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod cyllid grant ddim yn ddigon i gynnal pethau Cymraeg."
'Roedd Lysh yn llenwi bwlch'
Mae Llio Angharad o Ynys Môn wedi bod yn golygu Lysh ers 2022, ond cafodd wybod yr wythnos ddiwethaf y bydd y cylchgrawn yn dod i ben.
Dywedodd ei bod wedi dechrau darllen Lysh er budd ei chwiorydd, a oedd yn eu harddegau cynnar ar y pryd.
"Oedd o’n llenwi bwlch, doedd na’m byd arall ar eu cyfer nhw," meddai.
"Oedden nhw’n rhy hen ar gyfer cylchgronau’r Urdd, a ddim cweit digon hen i ddarllen Golwg, felly mi oedd Lysh yn berffaith."
Er gwaethaf y penderfyniad i ddod â’r cylchgrawn i ben, dywedodd Llio nad oedd diffyg diddordeb gan y gynulleidfa.
"'Da ni heb wynebu sefyllfa lle ydan ni’n gweld y gynulleidfa yn mynd yn llai o gwbl, mae’r galw yna wedi bod yn barhaus," meddai.
Dywedodd fod lansio cyfrif TikTok yn ddiweddar wedi dangos bod awydd mawr am gynnwys Lysh ymhlith darllenwyr iau.
"Mae colli darllenwyr yn fan 'na yn siom ofnadwy, achos holl bwynt Lysh ydi darllan ar gyfer mwynhad, a rhoi platfform i bobl eraill.
"Mae ‘na lot o awduron wedi cychwyn ar Lysh, felly mae’n bechod ofnadwy."
Dywedodd Lynda Tunnicliffe, cyfarwyddwr Gwasg Rily, sy’n cyhoeddi Lysh Cymru, fod y penderfyniad yn "sioc ac yn siom".
Mae hi'n dweud fod y cylchgrawn wedi derbyn adborth cadarnhaol yn y gorffennol, ac nad oedd wedi gofyn am fwy o arian.
Fe eglurodd fod y cylchgrawn wedi cael ei sefydlu yn 2019 ar ôl i ymchwil gan Lywodraeth Cymru ddangos fod pobl ifanc yn colli’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
"Roedden ni eisiau cael rhywbeth y gallai pobl ifanc ei ddarllen yn eu hamser hamdden a'u hannog i barhau i ddefnyddio'r Gymraeg," meddai.
Dywedodd na chafodd unrhyw gyfle i drafod y penderfyniad cyn cael gwybod na fyddai’r cylchgrawn yn cael rhagor o arian gan y Cyngor Llyfrau.
"Ni allwn danbrisio'r Gymraeg. Mae pobl yn amlwg yn hoffi cael mynediad ati mewn ffyrdd gwahanol, ond rydym yn tynnu dewis oddi ar y bobl bwysicaf - y genhedlaeth iau," meddai.
"Rydym yn tynnu eu dewis i gael mynediad at bethau y maent yn eu mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n sefyllfa wirioneddol ddifrifol.
"Rwy'n gwybod bod Plaid newydd ddechrau yn y swydd, ond rwy'n teimlo bod hyn yn rhywbeth y dylen nhw wir ei gefnogi."
'Proses gystadleuol'
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’r tendr cylchgronau Cymraeg yn broses gystadleuol, agored a gynhelir bob pedair blynedd. Aseswyd ceisiadau ar gyfer rownd 2027-31 gan banel annibynnol. Roedd naw cais yn llwyddiannus.
"Bu’r panel yn asesu bob cais yn ofalus yn erbyn cyfres o feini prawf, ac yn ystyried effaith eu penderfyniadau ar ddarpariaeth a chylchred gyffredinol y cylchgronau a ariennir gan y grant hwn.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cylchgronau fel rhan o’r cynnig ar gyfer plant a darllenwyr ifanc ac mae’r cylchgronau a gefnogir dros 2027-31 yn cynnwys teitlau ar gyfer y darllenwyr yna.
"Dros y misoedd nesa byddwn ni’n trafod y bwlch yn y farchnad ar gyfer cylchgrawn papur i’r plant ieuengaf gyda grŵp o randdeiliaid perthnasol.”
Dywedodd Llwyodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae cylchgronnau Cymraeg yn eu chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg, darparu llwyfannau i awduron, ac i sbarduno dadleon o ansawdd ar ddiwylliant, llenyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru.
"Rydym yn parhau i gefnogi'r sector cyhoeddi drwy Cyngor Llyfrau Cymru, sydd eu hunain yn gyfrifol am eu penderfyniadau ariannu.
"Drwy Cymru Greadigol, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Cyngor Llyfrau mewn ymateb i'r pryderon ehangach y mae'r sector cyhoeddi yn eu hwynebu ar hyn o bryd."