Nigel Owens: Ysgrifennu hunangofiant yn gymorth mawr i'w iechyd meddwl
Nigel Owens: Ysgrifennu hunangofiant yn gymorth mawr i'w iechyd meddwl
Mae ysgrifennu wedi bod o gymorth mawr i un o ddyfarnwyr amlycaf rygbi Cymru gyda’i iechyd meddwl.
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth, bu Nigel Owens yn trafod ei hunangofiant newydd ‘Y Chwiban Olaf’ gyda Huw Llywelyn Davies.
Yn 2008 cyhoeddodd Nigel Owens ei hunangofiant cyntaf, ‘Hanner Amser’.
Dyfarnodd ei gêm ryngwladol olaf yn 2020 a chwe mlynedd yn ddiweddarach, mae’n paratoi i gyhoeddi ei hunangofiant newydd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd fod ysgrifennu ei hunangofiant newydd wedi “helpu lot” gyda’i iechyd meddwl.
“Mae fe’n eithaf anodd i drafod amdano fe ond achos bo’ fi’n neud lot o siarad mewn cynhadleddau a phethau ar ran iechyd meddwl ac amser mis Pride a phethe amdano diversity ac inclusion ac equality hefyd felly fi’n siarad tipyn am y profiad personol.
“Ond eistedd lawr a dodi fe yn y llyfr o’dd y tro cyntaf i fi allu eistedd lawr a hel atgofion a chofio nôl am yr amser anodd ‘na felly o’dd e’n anodd iawn i ‘neud yn enwedig pan chi’n siarad â rhywun amdano fe.
“O’dd dim dowt fe wna’th e wedyn ‘ny 'neud i fi ystyried pwy mor ffodus dwi wedi bod mewn ffordd a na’th e helpu lot i ga’l trafod e am y tro cyntaf.”
Ychwanegodd fod “lot o bethau i sôn amdano, yn enwedig yn y byd dyfarnu odd ddim ‘di digwydd pan nathon ni’n gyfrol gyntaf.”
Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa ym myd dyfarnu rygbi, dywedodd mai gêm derfynnol Cwpan y Byd 2015 yn Twickenham oedd ei uchafbwynt.
Dechreuodd Nigel Owens ei yrfa dyfarnu yn 16 oed ac wrth siarad â Huw Llywelyn Davies yn y Babell Lên fore Mawrth, esboniodd sut y gwnaeth methu un gic ei arwain i ddyfarnu.
“O’n i ddim yn chwarae’r gamp yn dda iawn felly bydde dim gobaith ‘da fi i fod yn chwaraewr rhyngwladol o unrhyw safon.”
Ar ôl dyfarnu’r gêm ryngwladol olaf yn 2020, dywedodd ei fod wedi “mynd mewn wedyn i fyd ffermio” ond ei fod yn “dal i wneud bach gyda’r dyfarnu.”