Rhybuddion am y cynhaeaf gwaethaf ar gofnod 'ddim yn syndod i ffermwyr Cymru'

Ian Rickman / Cynhaeaf

Mae dau o undebau amaethyddol mwyaf amlwg Cymru yn dweud bod rhybuddion am y cynhaeaf gwaethaf ar gofnod “ddim yn dod fel unrhyw syndod i ffermwyr Cymru”.

Yn ôl gwaith dadansoddi newydd, mae awgrym bod y gwanwyn a’r haf poeth a sych wedi lleihau cynhaeaf grawnfwydydd a hadau olew o 2.5 miliwn o dunelli.

Byddai hynny’n costio tua £390 miliwn i ffermwyr y Deyrnas Unedig.

Mae’r asesiad wedi cael ei wneud gan y felin drafod Uned Ynni a Deallusrwydd Hinsawdd.

Fe wnaeth Cymru gofnodi'r mis Gorffennaf sychaf ar gofnod eleni, tra bod y tymheredd cyfartalog wedi cyfateb i’r record a gofnodwyd yn 1983 a 2006.

Mae tanau gwyllt wedi’u gweld ledled y wlad hefyd, gyda gwasanaethau tân yn parhau i frwydro yn erbyn sawl un ar y funud.

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn gallu ymdopi â thywydd poeth eithafol yn y dyfodol.

“Ni fydd y cyhoeddiad hwn yn dod fel unrhyw syndod i ffermwyr Cymru,” meddai.

“Mae’r cyfnod hir o dywydd sych eisoes wedi rhoi pwysau enfawr ar ffermydd ledled y wlad, gyda thwf glaswellt wedi arafu’n sylweddol, porthiant gaeaf yn cael ei ddefnyddio’n gynnar, a chyflenwadau dŵr yn dod yn bryder cynyddol.

“Mae ffermwyr, fel erioed, yn addasu i’r heriau sydd o’u blaenau, ond mae’r sychder hwn yn amlygu’r angen i’r Llywodraeth wneud ei rhan hefyd.

“Mae angen mwy o hyblygrwydd o fewn cynlluniau cymorth, ynghyd â buddsoddiad hirdymor mewn seilwaith a gwydnwch o ran dŵr, er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gallu ymdopi â thywydd sy’n mynd yn fwyfwy anrhagweladwy.”

Image
Cynhaeafu

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Paul Williams bod meddwl am sefydlu cnydau ar gyfer 2027 yn destun pryder yn barod.

“Eleni, mae rhai rhannau o Gymru wedi perfformio'n well na rhannau eraill o'r DU, gyda chynnyrch cnydau a gynaeafwyd yn gynharach, megis haidd gaeaf a had rêp olew, ar lefel gyfartalog neu ychydig yn uwch na'r cyfartaledd. 

"Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd cynnyrch cnydau sy'n cael eu cynaeafu'n ddiweddarach, megis gwenith gaeaf a haidd gwanwyn, yn sylweddol is.

“Gan fod lefelau lleithder y pridd ar hyn o bryd yn isel iawn a'r tir wedi caledu bron fel concrit, bydd hau a sefydlu cnydau yr hydref hwn ar gyfer cynhaeaf 2027 yn her fawr iawn oni bai ein bod yn cael glaw sylweddol dros yr wythnosau nesaf."

Ychwanegodd Ian Rickman o Undeb Amethwyr Cymru: “Mae’r risg cynyddol o danau gwyllt hefyd yn tynnu sylw at bryder cynyddol ynghylch y gostyngiad yn nifer y da byw ledled Cymru.

“Mae da byw sy’n pori ac sy’n cael eu rheoli’n effeithiol yn chwarae rhan allweddol wrth leihau’r llystyfiant sy’n gallu gweithredu fel tanwydd i danau, gan helpu i reoli ein tirweddau a diogelu cymunedau gwledig.

“Mae hyn yn atgoffa’r Llywodraeth unwaith eto bod yn rhaid i’w pholisïau gefnogi cadw da byw ledled Cymru, gan gydnabod eu pwysigrwydd nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd wrth ddarparu buddion amgylcheddol ehangach a chryfhau gwydnwch ein cefn gwlad yn wyneb hinsawdd sy’n newid.”

Os yw rhagolygon Uned Ynni a Deallusrwydd Hinsawdd (ECIU) yn gywir, dyma fydd y cynhaeaf gwaethaf ers i gofnodion trylwyr gael eu cadw yn 1984.

Mae Tom Lancaster o'r ECIU yn rhybuddio bod perygl y gallai'r diwydiant yn y DU wynebu cyfnod anodd iawn, gyda thir gwyrdd yn cael ei drawsnewid i dir sych nad oes modd ei ddefnyddio'n effeithiol at ddibenion ffermio.

"Ar ddechrau'r gwanwyn roedd ffermwyr yn obeithiol am flwyddyn well," meddai.

"Ond roedd Ebrill sych a mis Gorffennaf wnaeth dorri sawl record wedi gadael ffermwyr yn wynebu'r trydydd cynhaeaf gwael yn olynol.

"Ffermio yw'r sector sydd mwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd a'r risgiau sy'n dod gyda hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau ar ffermwyr a thyfwyr yn ystod yr amodau tywydd sych hir hyn, gan gynnwys effeithiau ar dda byw, cnydau, a busnesau fferm. 

"Mae gennym gyngor ymarferol ar ofalu am anifeiliaid fferm a cheffylau mewn tywydd eithafol, a dylai ffermwyr sydd ag unrhyw bryderon am les anifeiliaid ofyn am gyngor ar unwaith gan eu milfeddyg.

"Rydym wedi cyhoeddi mwy na £1 biliwn dros dymor y Senedd i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy i roi sicrwydd hir-dymor i'r sector gynllunio a buddsoddi yn hyderus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.