Canllawiau newydd ar ofodau un rhyw yn dod i rym yng Nghymru
Bydd canllawiau newydd ar ofodau un rhyw, gan gynnwys toiledau ac ystafelloedd newid, yn dod i rym yng Nghymru ddydd Mercher.
Daw'r newid yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ynghylch diffiniad menyw.
Mae'r canllawiau newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn nodi y dylid defnyddio gofodau un rhyw – fel toiledau ac ystafelloedd newid – ar sail rhyw fiolegol yn hytrach na hunaniaeth o ran rhywedd.
Gallai hyn effeithio ar dros 10,000 o bobl drawsryweddol yng Nghymru.
O dan y canllawiau diweddaraf, sydd wedi'u cymeradwyo gan weinidogion San Steffan, gall busnesau, ysgolion ac ysbytai wahardd menywod traws rhag defnyddio gofodau benywaidd, a dynion traws rhag defnyddio gofodau gwrywaidd.
Mae hynny'n berthnasol hyd yn oed os oes gan yr unigolyn Dystysgrif Cydnabod Rhywedd. Mae'r dystysgrif yn caniatáu i berson trawsryweddol gael ei gydnabod yn gyfreithiol yn y rhywedd y mae'n uniaethu ag ef.
Mae'r EHRC hefyd yn awgrymu y dylai lleoedd ddarparu trydydd gofod neu gyfleuster niwtral.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'r canllawiau'n rhoi eglurder cyfreithiol i sefydliadau ac yn diogelu gofodau un rhyw.
Mae'r canllawiau'n awgrymu y gallai mesurau fel ciwbiclau y gellir eu cloi o'r tu mewn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio ystafelloedd newid. O ganlyniad, maent yn dweud y bydd hi yn "anhebygol iawn" na fydd gan berson trawsryweddol ofod addas i'w ddefnyddio.
Mae Llywodraeth y DU wedi wynebu beirniadaeth am beidio â gweithredu'r newidiadau'n gynt. Fodd bynnag, mae'r llywodraeth wedi dadlau ei bod wedi "cymryd yr amser i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu'n gywir".
Mae'r llywodraeth hefyd wedi awgrymu bod "sawl busnes eisoes yn gweithredu gofynion y canllawiau", ac felly na fydd costau ychwanegol.
Mae'r canllawiau'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys bwytai, canolfannau hamdden, siopau trin gwallt, gwasanaethau cynghori a chlybiau chwaraeon sydd â 25 neu fwy o aelodau.