Gweinidog Tramor newydd Affganistan yn beirniadu'r UDA am 'weithredu yn erbyn y Taliban'

Mae Gweinidog Tramor dros dro Affganistan, Amir Khan Muttaqi, wedi beirniadu'r UDA am eu "gweithredoedd yn erbyn llywodraeth newydd y Taliban".
Yn ei sylwadau cyntaf ers i'r llywodraeth newydd gael ei chyhoeddi, dywedodd y gweinidog bod yr UDA wedi "torri cymorth economaidd" ar ôl i'r grŵp gipio grym fis diwethaf.
Yn ôl Al Jazeera, dywedodd Muttaqi na fyddai’r Taliban yn “caniatáu i unrhyw wlad osod sancsiynau yn erbyn Affganistan, gan gynnwys yr UDA".
Dywedodd: “[Fe wnaethom] helpu'r UDA nes i’w person olaf ffoi, ond yn anffodus, gwnaeth yr UDA, yn lle diolch i ni, rewi ein hasedau.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.