Newyddion S4C

Brechiad Covid ychwanegol i bawb dros 50 oed

The Guardian 14/09/2021
S4C

Bydd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi cynllun i ddelio gyda Covid-19 dros dymor y gaeaf mewn cynhadledd ddydd Mawrth. 

Fe fydd brechiad ychwanegol yn cael ei gynnig i bawb dros 50 oed yn y DU, yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Mae'r JCVI yn dweud bod trydydd dos o'r brechlyn yn cynyddu imiwnedd ymhlith y rhai ble mae eu himiwnedd yn debygol o fod wedi gwanhau ers iddynt dderbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae hefyd disgwyl i’r Prif Weinidog amlinellu mesurau eraill allai gynnwys dychwelyd i wisgo masg mewn rhai lleoliadau, dweud wrth bobl am weithio o adref os yn bosib ac ailgyflwyno pellter cymdeithasol yn Lloegr. Does dim cynlluniau ar gyfer cyfnod clo arall. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.